Tase ngŵr i'n awgrymu epilio dros ginio se fe'n cael slap - a minnau â'r holl waith ma i'w wneud!
Hwyl
Siân
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 29 September 2005 14:11
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Spinning out
Ie, 'roedd Bruce yn awgrymu epilio/creu/cynhyrchu dros ginio, ond mae 'esgor
ar' yn swnio'n well byth - os yw'n son am gwmni'n esgor ar gwmni arall.
'Roeddwn i wedi dychmygu mai enw cyfarwyddwr neu ryw unigolyn arall oedd yr
xxxx cyntaf, ond mae'n gwneud mwy o synnwyr imi rwan!
Ann
----- Original Message -----
From: "Catrin Alun" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, September 29, 2005 1:48 PM
Subject: Re: Spinning out
> 'esgor ar' ddefnyddiais i yn y frawddeg honno - ond mae'n werth mynd i
> edrych ar y wefan:
>
> http://www.spinoutwales.com/htdocs/language_choice.html
>
> Catrin Alun
> 3 Clos Glanlliw
> Pontlliw
> Abertawe/Swansea
> SA4 9DW
>
> 01792 898327/01792 898222
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, September 29, 2005 1:13 PM
> Subject: Re: Spinning out
>
>
> Ond y cwmni sy'n "deillio", mae'n debyg. Sut wnaethoch chi ddelio a
"During
> May 2005, xxxx was successful in spinning out xxxx, a company set up to
> ...."?
>
> ----- Original Message -----
> From: "Catrin Alun" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, September 29, 2005 12:20 PM
> Subject: Re: Spinning out
>
>
> > Diolch yn fawr iawn - dwi wedi dilyn awgrym Eirian a defnyddio
'deillio'.
> >
> > Fe ges i ateb gan y cwsmer hefyd yn y cyfamser, oedd yn cadarnhau'r
> > diffiniadau yma.
> >
> >
> >
> > Catrin Alun
> > 3 Clos Glanlliw
> > Pontlliw
> > Abertawe/Swansea
> > SA4 9DW
> >
> > 01792 898327/01792 898222
> > ----- Original Message -----
> > From: "Pennawd Cyf." <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Thursday, September 29, 2005 12:04 PM
> > Subject: Re: Spinning out
> >
> >
> > Mae diffiniad ar wefan yr 'Oxford Teachers' Club, sef:
> >
> > "spin-out (also spin-out company) noun a company which is set up by a
> > university or a larger company to make commercial use of a new
technology
> > that has been developed in research: The research led to the formation
of
> a
> > spin-out company. A new spin-out is by definition a risky venture for
the
> > university. The creation of these new spin-out companies benefits local
> > economic development.
> > In order to develop technology which a university or company can then
use
> > for its own needs, the institution can become the partner of a company
> which
> > already exists: this is then called a spin-in or spin-in company: The
new
> > fund will be able to invest in spin-in companies. We support spin-ins -
> > those companies that wish to work with the University to develop their
> > product. The nouns spin-out and spin-in can also be written without a
> > hyphen: Part-time programmer wanted to join this Oxford University
spinout
> > company. Many nouns like these are formed from phrasal verbs that
already
> > exist, and these are related to the noun spin-off, which comes from the
> > phrasal verb spin (sth) off (from sth)."
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Catrin Alun" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Thursday, September 29, 2005 11:38 AM
> > Subject: Spinning out
> >
> >
> > Oes gan rywun syniad beth yw ystyr 'spinning out' mewn perthynas a
chwmni?
> > Mae'r cyd-destun yn awgrymu bod un corff wedi sefydlu'r cwmni, ac wedi
ei
> > drosglwyddo i ddwylo rhywun arall - ond dydy hynny ddim yn amlwg.
> >
> > Yn ddiweddarach yn y darn, mae'n son am y corff gwreiddiol yn cadw rhan
> > berchnogaeth o'r cwmni, a dyna sydd wedi awgrymu'r uchod i mi.
> >
> > Sori os ydy hwn yn amlwg i bawb ond fi!! Byddwn yn gwerthfawrogi
> > awgrymiadau - dyma'r frawddeg dan sylw, gan dynnu enwau'r corff/cwmni
> allan:
> >
> > During May 2005, xxxx was successful in spinning out xxxx, a company
set
> up
> > to ....
> >
> > Diolch
> > Catrin
> >
> >
> > Catrin Alun
> > 3 Clos Glanlliw
> > Pontlliw
> > Abertawe/Swansea
> > SA4 9DW
> >
> > 01792 898327/01792 898222
> > ----- Original Message -----
> > From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Thursday, September 29, 2005 8:50 AM
> > Subject: Re: 2million/2 billion
> >
> >
> > Nage. Dwyt ti ddim yn arholwr am nad wyt ti ddim yn aelod o CCC.
> >
> > Mae'r ohebiaeth hon yn dechrau mynd yn annhestunol. Cawn gerydd gan
Delyth
> > cyn hir!
> >
> > Berwyn
> >
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Wednesday, September 28, 2005 10:35 PM
> > Subject: Re: 2million/2 billion
> >
> >
> > Hm. Faswn i yn rhoi marciau ychwanegol i rywun fyddai'n rhoi "dwy seren"
> > wrth gyfieithu "2 stars" ...
> >
> > Ac nid gwgu braidd faswn i, ond gwenu.
> >
> > Ond dyna fo, dyna pam nad ydw i'n arholwr, mae'n siwr...
> >
> > Geraint
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Wednesday, September 28, 2005 4:30 PM
> > Subject: Re: 2million/2 billion
> >
> >
> > Fel arholwr, byddwn i'n gwgu braidd, ond yn ymatal rhag tynnu marc os
nad
> > oes rhywbeth arall gerllaw fydd yn gwneud i mi wgu'n fwy!
> >
> > Berwyn
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Wednesday, September 28, 2005 3:48 PM
> > Subject: Re: 2million/2 billion
> >
> >
> > O^l feri wel, Berwyn, ond gwahaniaeth bach iawn yw rhwng dweud rhywbeth
yn
> > eich pen a dweud rhywbeth yn uchel. Mae Bruce yn pwysleisio mai ar
gyfer
> 2,
> > 3, 4, ac i ryw raddau 5 a 6, y dylid ystyried ysgrifennu'r rhif yn
llawn.
> > Oni wneir fel hyn, bydd pobl mewn perygl o ddarllen "dau goeden", "pump
> dyn"
> > ac ati. Hefyd, o brofiad personol, mae'n osgoi problemau wrth
ddefnyddio
> > cof cyfieithu. Os nad oes newid arall mewn brawddeg, mae Trados yn
> cyfnewid
> > rhifau heb ofyn ichi ac yn dangos "exact match". Os oedd gennych "2
dy^"
> yn
> > y rhestr flaenorol, fe gewch "3 ty^", ac os oedd gennych "2 bunt", fe
> gewch
> > "3 bunt".
> >
> > Gyda llaw, a fyddi di'n tynnu marciau gen i os dilynaf yr egwyddor hon
> mewn
> > arholiad?
> >
> > Mae "2 biliwn" yn hollol annerbyniol gan Bruce, ac nid yw'n derbyn y
> > Cynulliad fel awdurdod yn hyn o beth (ac iawn, 'rwyf i [Ann] yn gwybod
bod
> > rhaid ufuddhau i'r cwsmer, ond mae modd dwyn perswad ar y cwsmer hefyd).
> >
> > Mater arall yw'r dyddiadau.
> >
> > Cofion gorau,
> >
> > Ann
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Wednesday, September 28, 2005 2:20 PM
> > Subject: Re: 2million/2 billion
> >
> >
> > > Er cymaint y byddai'n well gen i beidio ag anghytuno â Llywydd er
> > Anrhydedd
> > > Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, heb sôn am anghytuno ag Elwyn, byddwn
i'n
> > > barnu mai'r cwsmer sydd i benderfynu pa ffurf y mae'n dymuno'i rhoi ar
> > > ffigurau yn ei destun.
> > >
> > > Os yw'n dweud '2 stars', fe roddaf '2 seren' yn fy nghyfieithiad. Os
> yw'n
> > > dweud 'two stars', fe roddaf 'dwy seren'.
> > >
> > > Os yw'n dweud '23 April 1999' fe roddaf '23 Ebrill 1999', nid 'y
trydydd
> > ar
> > > hugain o Ebrill mil naw naw naw' er y gall rhai darllenwyr ddweud
> > > 'twenty-three/dau ddeg tri Ebrill nineteen ninety nine' yn eu
meddyliau.
> > >
> > > I mi, yr unig eithriadau i'r rheol yw:
> > >
> > > 1. sillafu ffigurau pan fydd y sgript i gael ei darllen neu ei
recordio
> a
> > > bod angen tipyn o arweiniad ar y sawl sy'n ei llefaru, a
> > >
> > > 2. pan geir '2 hours' neu '2 days' neu ffurfiau tebyg yn y gwreiddiol.
> Os
> > > digwydd hynnny, y ffurfiau cywir, yn fy marn i, yw 'dwyawr', 'deudydd'
> ac
> > > ati.
> > >
> > > Berwyn
> > >
> > > ----- Original Message -----
> > > From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> > > To: <[log in to unmask]>
> > > Sent: Wednesday, September 28, 2005 11:41 AM
> > > Subject: Re: 2million/2 billion
> > >
> > >
> > > Ie, llithriad, mae'n rhaid, fu dynodi biliwn yn fenywaidd yng NgyrA.
> > >
> > > I wahaniaethu rhwng "biliwn" a "miliwn" felly, byddai'n gymorth petaem
> yn
> > > dilyn anogaeth John Elwyn Hughes a pheidio ag ysgrifennu mewn
ffigyrau,
> > h.y.
> > > ysgrifennu "dau filiwn" neu "dwy filiwn" yn lle "2 filiwn". Fel y
dywed
> > ef,
> > > wrth weld y ffigyrau 2, 3, 4 y tuedd yw dweud "dau", "tri", "pedwar"
hyd
> > yn
> > > oed o flaen enw benywaidd.
> > >
> > > Er hynny, prin fydd y nifer ohonom a all gofio pa un o'r ddau rif sy'n
> > > wrywaidd a pha un sy'n fenywaidd. Cymhlethir y mater gan y newid a fu
> yn
> > > ystyr "billion". Yr ystyr gywir yw miliwn miliwn, a dyna a fu'n
safonol
> > yn
> > > y Deyrnas Unedig. Er hynny, yn ddiweddar newidiwyd yr ystyr gan
ddilyn
> > > arfer America, i olygu mil o filynau. Ar gyfer yr ystyr newydd hon, i
> > osgoi
> > > unrhyw gamddealltwriaeth, dylid arfer y ffurf "milfiliwn" a restrir
yng
> > NgPC
> > > fel enw benywaidd (yn betrus), yng Ngeiriadur Edward Anwyl (Spurrrell)
> ac
> > > yng NgyrA. Yr ansoddair cyfatebol fydd "milfiliynfed".
> > >
> > > Dyna ddatrys yr anhawster mi gredaf.
> > >
> > > Bruce
> > >
> > > ----- Original Message -----
> > > From: "Delyth Prys" <[log in to unmask]>
> > > To: <[log in to unmask]>
> > > Sent: Wednesday, September 28, 2005 8:58 AM
> > > Subject: Re: 2million/2 billion
> > >
> > >
> > > Ysgrifennodd Dwynwen:
> > >
> > > > Diolch i chi Muiris a Berwyn am y cyfeiriad i GyG - ond yn fy
> > > > marn i mae'r broblem yn dal i godi ar ol *dau *- mae *dau
filiwn*
> > > > yn swnio fel defnydd anghywir o'r rhifolyn yn hytrach na
> > > > threiglad o *Biliwn .*
> > > >
> > > > Dwi'n cytuno braidd efo Berwyn - derbyn fod miliwn a biliwn
> > > > yn fenywaidd a pheidio treiglo biliwn ar ol dwy oedd fy
> > > > ngreddf gyntaf innau i osgoi unrhyw amwysedd neu gamddeall.
.
> > > >
> > > > Mi faswn i'n reit hapus i ddefnyddio *dau biliwn* neu *dwy
> > > > biliwn* - o leia mae'r ddau yna yn gneud yn glir mai
*biliwn*
> > > > olygir. Ond pa un ddylwn i fynd amdano???
> > > > Dwynwen
> > > >
> > > >
> > > > --- Original Message -----
> > > > *From:* Berwyn Jones <mailto:[log in to unmask]>
> > > > *To:* [log in to unmask]
> > > > <mailto:[log in to unmask]>
> > > > *Sent:* Tuesday, September 27, 2005 6:15 PM
> > > > *Subject:* Re: 2million/2 billion
> > > >
> > > > Gramadeg y Gymraeg, Peter Wynn Thomas, td. 138, adran 4.8(a):
> > > >
> > > > "Dau enw arall y gall eu ffurfiau orymylu yn sgîl treiglo yw
> > > > /biliwn/ a /miliwn/. Ni fydd unrhyw amwysedd pan oleddfir y ddau
> > > > hyn gan rifolion,
> > > > e.e. biliwn: dau filiwn, tri biliwn, pum biliwn
> > > > miliwn: dwy filiwn, tair miliwn, pum miliwn."
> > > >
> > > > Awgryma ymhellach fod modd osgoi amwysedd rhwng biliwn a miliwn
os
> > > > cânt eu treiglo, a hynny drwy ddweud 'un biliwn' yn lle 'biliwn'
> > > > ac 'un filiwn' yn lle 'miliwn'.
> > > >
> > > > Yn anffodus, dyw hynny ddim yn gweithio os defnyddir y rhif: dyw
> > > > '2 filiwn' ddim yn ddiamwys. Byddai'n rhaid dweud '2 biliwn'.
> > > >
> > > > Mae Geiriadur y Brifysgol, y Geiriadur Cymraeg Cyfoes a'r
> > > > Termiadur yn cytuno â Peter mai gair gwrywaidd yw 'biliwn', ond
yn
> > > > groes i hynny dywed Geiriadur yr Academi mai gair benywaidd ydyw
> > > > (os felly, byddwn i'n dweud 'dwy biliwn').
> > > >
> > > > Rwy'n teimlo 'mod i wedi gwneud y tywyllwch yn dywyllach byth!
Pa
> > > > Gymro neu Gymraes welai'r gwahaniaeth enfawr rhwng '*dwy*
filiwn'
> > > > a '*dau* filiwn'? Os yw 'miliwn' yn fenywaidd, pam y dylai
> > > > 'biliwn' fod yn wrywaidd? Oni fyddai'n well i'r ddau enw fod yn
> > > > fenywaidd a pheidio â threiglo 'biliwn' ar ôl 'dwy'?
> > > >
> > > Wow! Peth peryg iawn yw rhagnodi cenedl enw, gan fod treiglo yn
rhywbeth
> > > sy'n digwydd yn reddfol i siaradwyr Cymraeg rhugl. Lle ceir
tystiolaeth
> > > fod gair yn cymryd cenedl arbennig yn yr iaith, dylid glynu at hynny.
Yn
> > > achos 'biliwn' mae enghraifft Geiriadur Prifysgol Cymru yn dyddio o
1725
> > > ac yn nodi 'biliwn neu ddau' yn ddiamwys. Mae'n bosib mai llithriad yw
> > > nodi 'biliwn' fel benywaidd yng Ngeiriadur yr Academi, ac nid yw'n
> > > ddigon o dystiolaeth ar ei ben ei hun i newid cenedl gair. Y mwyaf y
> > > gellid gwneud os daw tystiolaeth o rywle arall y gall 'biliwn' fod yn
> > > fenywaidd hefyd yw ei nodi fel enw gwrywaidd/benywaidd. Yn y cyfamser,
> > > mae'n well peidio 'biliwn' lle byddai'n achosi amwysedd.
> > >
> > > Delyth
> > >
> > > >
> > > > Ond pwy ydw i i ddeddfu?
> > > >
> > > > Berwyn
> > > >
> > > > ----- Original Message -----
> > > > *From:* Dwynwen <mailto:[log in to unmask]>
> > > > *To:* [log in to unmask]
> > > > <mailto:[log in to unmask]>
> > > > *Sent:* Tuesday, September 27, 2005 5:31 PM
> > > > *Subject:* 2million/2 billion
> > > >
> > > > Tybed fedrwch chi helpu.
> > > > Isio gwahaniaethu rhwng 2 million a 2 billion yn Gymraeg
> > > > Hyd y gwela i o gyfieithu a rhoi'r treiglad meddal yn ei le
> > > > *dwy filiwn* geir am y ddau !!
> > > > Ddylai rhywun beidio treiglo "Biliwn" i roi *dwy biliwn *er
> > > > mwyn gwahaniaethu??
> > > >
> > > > Diolch
> > > > Dwynwen
> > > >
> > > >
> > >
> > ------------------------------------------------------------------
> > > ------
> > > > No virus found in this incoming message.
> > > > Checked by AVG Anti-Virus.
> > > > Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.6/111 - Release
> > > > Date: 23/09/2005
> > > >
> > >
> > >
> > >
> > > --
> > > No virus found in this incoming message.
> > > Checked by AVG Anti-Virus.
> > > Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.6/111 - Release Date:
> 23/09/2005
> > >
> > >
> > >
> >
> >
> >
> > --
> > No virus found in this incoming message.
> > Checked by AVG Anti-Virus.
> > Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.6/111 - Release Date:
23/09/2005
> >
> >
> >
> > --
> > No virus found in this incoming message.
> > Checked by AVG Anti-Virus.
> > Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.6/111 - Release Date:
23/09/2005
> >
> >
> > --
> > No virus found in this incoming message.
> > Checked by AVG Anti-Virus.
> > Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.7/112 - Release Date:
9/26/2005
> >
> >
> >
> >
>
> --------------------------------------------------------------------------
> ------
> >
> >
> > No virus found in this incoming message.
> > Checked by AVG Anti-Virus.
> > Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.7/112 - Release Date:
9/26/2005
> >
> >
> >
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.7/112 - Release Date: 9/26/2005
>
>
>
|