Yn ôl fy mhrofiad i o gyfieithu mewn Awdurdod Lleol (yng Ngwynedd, amser
maith yn ôl), roedd barn y cynghorwyr, yn enwedig yr aelod lleol, yn
bwysig iawn wrth benderfynu pa ffurf i'w mabwysiadu'n swyddogol.
Helen
Ysgrifennodd Berwyn Jones:
> Rhaid cofio mai 'ar y Waun' y mae pobl Gwauncaegurwen yn byw, ac nid 'yn
> y Waun'. ('Waun, wimin and song' yw hi draw fan'na ac, fel y dywedodd
> rhywun, os ydych chi wedi blino ar Waun, wimin and song, rhowch y gorau
> i ganu!)
>
> Ar nodyn tipyn mwy sobr (falle!), 'Pen-y-bont', yn hytrach na
> 'Pen-y-bont ar Ogwr' sydd ar yr arwyddion ar yr M4. A chymryd bod hynny
> hefyd yn deillio o argymhellion panel enwau lleoedd y Swyddfa
> Gymreig, mae hi braidd yn rhyfedd na fydden nhw wedi dilyn yr un gynsail
> yn achos 'Cefn Coed y Cymer/Cefncoedycymer' ac wedi rhoi 'Cefn
> Coed/Cefn-coed' ar yr arwyddion. Mae'n bosib, wrth gwrs, fod barn yr
> awdurdod lleol yn cyfrif mewn penderfyniadau o'r fath.
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: Eirian Youngman <mailto:[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, August 24, 2005 8:58 AM
> Subject: Re: Gwauncaegurwen
>
> Haws glynu at ddewis trigolion y pentref ei hun - 'Y Waun' a
> ddefnyddir yn lleol. Mae'n datrys y broblem, o leia!
>
> Eirian
>
> ----- Original Message -----
> From: John Puw <mailto:[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, August 23, 2005 11:11 PM
> Subject: Re: Gwauncaegurwen
>
> Tybed fydde Pen Isa'r Waun yn cael croeso?
>
> ----- Original Message -----
> From: Geraint Løvgreen <mailto:[log in to unmask]>
> To: John Puw <mailto:[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, August 23, 2005 6:40 PM
> Subject: Re: Gwauncaegurwen
>
> Ie, pwy ydi'r 'rhywun' ma sy'n gwybod yn well, tybed?
>
> Mae'n well gen i "Gwauncaegurwen" fy hun. Be nesa - Rhos
> Llannerch Rugog?
>
> ----- Original Message -----
> From: Berwyn Jones <mailto:[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, August 23, 2005 4:46 PM
> Subject: Re: Gwauncaegurwen
>
> Mae 'Cefncoedycymer' bellach yn 'Cefn Coed y Cymer' ar
> yr arwydd ar yr A470 ger Merthyr. Mae'n amlwg bod hyn yn
> rhan o batrwm. Egwyddor y Gazetteer oedd rhoi enwau
> lleoedd fel un gair ond eithrio enwau mynyddoedd,
> dyffrynnoedd ac ati, pan oedd yr elfen gyntaf yn enw ar
> nodwedd ddaearyddol, rhag dilyn y rheol honno.
>
> Mae'n amlwg bod rhywun yn meddwl eu bod yn gwybod yn
> well na phwyllgor a gynhwysai'r Athro Henry Lewis, yr
> Athro Thomas Jones, yr Athro Melville Richards , R J
> Thomas a'r Athro G J Williams ... Ar y llaw arall, mae
> gweld 'Cefncoedycymer' ar arwydd yn tueddu i roi cric
> yng ngwddwg dyn!
>
> Flynyddoedd yn ôl, roedd gan y Swyddfa Gymreig bwyllgor
> enwau lleoedd i'w chynghori ynghylch pa ffurfiau y dylid
> eu rhoi ar arwyddion ffyrdd. Mae'n eitha posib mai
> ffrwyth argymhellion y pwyllgor hwnnw yw'r ffurfiau
> 'newydd' a welwn ni ar arwydddion heddiw.
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: Geraint Løvgreen
> <mailto:[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, August 23, 2005 2:59 PM
> Subject: Gwauncaegurwen
>
> Un gair ydi hwn yn ol y Rhestr o Enwau Lleoedd, ond
> am ryw reswm mae'r Cynulliad yn ei roi fel tri gair
> ar wahân. Oes yna reswm?
>
> ------------------------------------------------------------------------
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.338 / Virus Database: 267.10.14/79 -
> Release Date: 22/08/2005
>
> ------------------------------------------------------------------------
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.338 / Virus Database: 267.10.14/79 - Release Date:
> 22/08/2005
>
--
Helen Smith (Cyfieithydd/Translator)
Canolfan Bedwyr
[log in to unmask]
Ffôn/Tel: 01248 383253 (allanol/external)
est/ext 3253 (mewnol/internal)
=^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^=
|