Wrth ddarllen "Beryl" gan Moelona, des i ar draws y canlynol:
'Pan fyddai Mr Arthur yn trin ei ardd yn y gwanwyn, gwnai ef y gwaith hwnnw
i gyd ei hunan, - ni welid ef byth heb sbrigyn bach o "gyrens bant" yn nhwll
botwm ei got. Yr oedd y llwyn hwnnw wedi bod rywbryd yn tyfu yng ngardd ei
hen gartref, a dygai ei aroglau atgofion melys a phrudd iddo. Yr oedd yr un
aroglau ryw ddiwrnod i ddwyn atgofion eraill i'w blant.'
Beth yn y byd yw 'cyrens bant'? Ai "flowering curant", y llwyn y mae Bruce
yn arfer cyfeirio ati fel "coeden piso cath"? Os felly, chwaeth od oedd gan
Mr Arthur. A all unrhyw un egluro hyn, os gwelwch yn dda?
Ann
|