Byddwn i wedi rhoi 'dysgu gweithgar' yn y cyd-destun hwnnw er mai
'gweithredol' sydd yn y Termiadur am y cyfuniadau 'active + (berf)enw'.
Byddai'n well gen i gadw 'gweithredol' i olygu 'acting', 'operational' ac
'yn weithredol' i olygu 'in force/operation' - mae hynny'n ddigon o faich i
un gair ei gario. Er mai mater o farn a chwaeth yw hyn mewn gwirionedd,
byddwn i'n gorfod meddwl am eiliad cyn deall yr ymadrodd 'dysgu
gweithredol'. (Efallai y byddai eraill yn gorfod meddwl ddwywaith cyn deall
'dysgu gweithgar!)
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Glenys M. Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, August 30, 2005 9:32 PM
Subject: Re: actively
> Gan fod sbel ers inni adael y drafodaeth hon, gobeithio bod neges Geraint
> yn mynd i ymddangos efo'r sylw bach yma ...
>
> Newydd gael enghraifft arall lle dw i'n teimlo bod
> angen 'gweithredol'! 'Active learning' ydy'r ymadrodd sy gen i,
> e.e. 'evaluate a range of active learning approaches' - h.y. 'active' yn
> hytrach na 'passive'.
> Glenys
>
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.10.17/84 - Release Date: 29/08/2005
>
>
|