Dyw 'smotyn' ddim yn cyfleu unrhyw darn tir cyfyngedig ei faint i mi. Er bod
GPC yn cynnwys y diffiniad 'man, mangre, lle, lleoliad' o 'smotyn', does dim
un o'r enghreifftiau a roir o'r gair yn cyfleu'r ystyr honno. 'Mannau gwael
am ddamweiniau' fydda i'n ei ddweud am 'accident blackspots', nid 'Smotiau
gwael am ddamweiniau', er eu bod yn gyfyngedig iawn eu maint gan amlaf.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Elis,Marged Ann" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, August 26, 2005 11:02 AM
Subject: Re: Hot-spots
Ysgrifennodd Berwyn Jones:
> 'lleoedd/mannau' yn well na 'smotiau'? Pan fyddwn ni'n sôn am 'a nice
> spot' yn Gymraeg, byddwn ni'n ddweud 'lle/man braf' yn hytrach na 'smotyn
> braf' - os nad yw dyn yn sôn am ardal y Smotyn Du, wrth gwrs!
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message ----- From: "Elis,Marged Ann" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, August 26, 2005 10:47 AM
> Subject: Hot-spots
>
>
>> Yn benodol, "wireless hot-spots". Dwi wedi mynd am "smotyn/smotiau signal
>> di-wifr". Unrhyw awgrymiadau/gwelliannau?
>>
>> Diolch
>>
>> Meg
>> --
>> M.A.Elis [log in to unmask]
>>
>>
>>
>> --
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG Anti-Virus.
>> Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.10.15/81 - Release Date:
>> 24/08/2005
>>
>>
Roeddwn innau wedi meddwl am hynny, ond yn meddwl bod "smotyn" yn
cyfleu'r maint yn well. Son am ardal weddol gyfyngedig yr ydan ni.
--
M.A.Elis [log in to unmask]
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.10.15/81 - Release Date: 24/08/2005
|