Byddwn i'n bersonol yn tueddu'n gryf yn erbyn defnyddio 'estron' yng
nghyd-destun unrhyw fodau dynol, am fod y gair fel pe bai wedi
datblygu'n semantig, ers ychydig ddegawdau, i olygu rhywbeth allanol
annymunol, megis darn bach o lwch yn y llygad! Yn yr un modd, mae'r
gair Saesneg 'foreign' yn tueddu i gael ei gyfyngu fwyfwy. Cofiaf yn
dda am yr ymadrodd 'Overseas Students' yn Aberystwyth mor bell yn ôl â'r
70au, ac 'International Students' a ddywedir ym Mangor heddiw. Buasai
'foreign students' yn y cyd-destun hwnnw'n chwerthinllyd. Yn wir,
credaf ei bod yn hen bryd i'r annwyl lywodraeth ddihuno a dechrau sôn am
'overseas policy', 'overseas office' ac 'overseas secretary'. Byddai
hynny'n fwy derbyniol o lawer, yn fy nhyb i!
Yn y Gymraeg, mae'r gair 'tramor' fel pe bai'n niwtral, he unrhyw
arlliwiau dirmygus, felly efallai y byddai 'dinasyddion tramorol' yn
gwneud y tro. Beth amdani?
Helen
Ysgrifennodd Geraint Løvgreen:
> GPC - estron - eg. Dyn o wlad neu genedl arall, dyn anghyfiaith; dyn
> dieithr: foreigner, alien; stranger, outsider
>
> ans. Yn perthyn i wlad neu genedl (neu hil) arall...
>
> Ac o dan estronieithus mae'n rhoi - Yn siarad iaith estron, anghyfiaith,
> dieithr ei iaith, yn perthyn i iaith estron: speaking a foreign
> language, of a strange tongue, pertaining to a foreign language.
>
> Felly nid 'strangers' ydi unig (nac yn wir brif) ystyr estron, o be wela i.
>
> ----- Original Message ----- From: "Mary Jones" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, August 23, 2005 11:16 AM
> Subject: Re: Foreign Nationals
>
>
>> Nage! Ystyr wahanol sydd i 'estron', rhywbeth tebyg i 'strangers' yn
>> Saesneg. Mae Estyn hefyd yn methu gweld y gwahaniaeth weithiau, ac yn
>> dweud
>> 'ieithoedd modern estron' am 'modern foreign languages'. Duw a'n helpo
>> ni!
>>
>> Mary
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of ynysennow
>> Sent: 23 August 2005 09:32
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: R:Foreign Nationals
>>
>> Gwladolion estron, o bosib.
>> ---
>
--
Helen Smith (Cyfieithydd/Translator)
Canolfan Bedwyr
[log in to unmask]
Ffôn/Tel: 01248 383253 (allanol/external)
est/ext 3253 (mewnol/internal)
=^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^=
|