Rhag dy gywilydd yn gwneud i mi chwerthin a fy mhwythau dim ond newydd
fendio! Cwcis mae fy merched i yn ei ddweud am y cookies yr wyt ti'n eu
bwyta a does i gen i ddim amynedd hefo nhw - Americanaidd yw cookies... a mi
roedd bisgedi yn hen ddigon da i ni yng Nghnafron, gynt....! A does dim
gwahaniaeth yn y cynhwysion sylfaenol, medde fi sydd heb goginio na chwci na
bisged erioed yn fy mywyd!
Mae hyn cyn waethed a'r Access & Entry gefais i mewn rhyw ddarn y diwrnod
o'r blaen....
Os oes RAID i ti blygu a gwahaniaethu, mae'n siwr bydd raid i ti ddefnyddio
cwcis ac arhosaf i yn ddinosor.......heb arbenigedd!
Mwynhewch y steddfod, bawb....dwi ddim yn siwr os byddaf yn barod i fentro
am wythnos wyllt, eto - er bydd yn anodd meddwl am steddfod yn digwydd yn
fy hen stamping ground heb i mi fod yno!
magi
----- Original Message -----
From: "Wyn Hobson" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Saturday, July 23, 2005 10:18 AM
Subject: Cookies
Yn ôl ym mis Ionawr 2003 cafwyd trafodaeth ar sut i gyfieithu 'Cookies' yn
ei ystyr cyfrifiadurol. Cytunwyd ar 'cwcis'.
Yn ddiweddar, bu gofyn i mi gyfieithu'r gair yn ei ystyr pethau-i'w-bwyta.
Ar ôl ymgynghori dwys gydag arbenigwraig (diolch Magi), penderfynwyd mai
bisgedi ydyn nhw, ac mai 'bisgedi' fyddai'r cyfieithiad.
Ond ow, ow ac och! Heddiw, mae gofyn i mi gyfieithu 'cookies' A 'biscuits'
ar gyfer arwyddion siop a fydd yn hongian y drws nesaf i'w gilydd.
Pa ffordd ymlaen??
Wyn
|