Be wyt ti'n ei gynnig felly David. Mae'n rhaid i ni gael term am "salvage", ac (fel dywedodd Sylvia) mae ailgylchu yn gyfarwydd i bawb. Ond os oes gwell gair, fe fyddem yn falch o'i glywed.
John
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran David Bullock
Anfonwyd/Sent: 05 July 2005 11:18
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Motor Salvage Operators Regulations 2002
Fe fyddwn i'n fodlon mentro ceiniog neu ddwy nad yw ailgylchu a 'salvage' yr un peth â'i gilydd.
Er enghraifft, bwriwch fod car wedi cael ei racso mewn gwrthdrawiad.
Byddai'r salvage operators yn mynd yno i glirio'r llanast. Efallai y byddai modd ailddefnyddio rhai o'r cydrannau, ac ailgylchu rhai eraill, ond gallai fod rhaid i rywfaint o'r car gael ei anfon i'r domen sbwriel i gael ei gladdu, am nad oes yna farchnad a dim elw i'w wneud.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Howard Huws
Sent: 05 July 2005 11:07
To: [log in to unmask]
Subject: Motor Salvage Operators Regulations 2002
"Rheoliadau Ailgylchwyr Moduron 2002" yn symlach, efallai, heb golli dim o'r gwirionedd. Nid rhaid iddynt fod yn hen, ac nid yw "vehicles" yn yr enw gwreiddiol.
HH.
Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon. Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am eich cydweithrediad.
Heddlu Gogledd Cymru
Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication. North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.
This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify the sender if received in error and erase from your system. Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy. Thank you for you co-operation.
North Wales Police
|