> A fyddai rhyw ffurf ar 'ochrgamu' yn gwneud y tro?
Mae angen y cyd-destun dwi'n credu.
e.e. dyma frawddegau o Google.. lle mae workaround bob amser
yn cyfeirio at nam neu 'broblem' er nad yw'r saesneg yn
cyfeirio at hynny.
+ "Microsoft Issues Workaround for IE Flaw"
"Cyhoeddodd Microsoft ddull o osgoi y nam yn IE"
+ "There is a simple workaround"
"Mae yna ffordd syml i osgoi (y broblem) yma"
Y broblem yw gyda brawddeg fel
"A workaround is a way to fool rendering problems, and minimize the
affected browsers"
Hefyd, mae workaround yn aml yn golygu "ffordd/dull arall o
ddatrys problem gan nad yw'r dull arferol yn gweithio", yn
hytrach na osgoi y broblem yn llwyr.
Cymhariaeth o 'Gwyriad Traffig' gyda 'Ffordd Osgoi' falle :)
|