Diolch Berwyn,
Y pwynt oeddwn yn ceisio’i wneud – efallai na wnes hynny’n dda iawn -
oedd, nid bod ‘gorbwysedd diachos’ yn hollol annerbyniol, ond nad yw
defnyddio term cyffredinol megis ‘diachos’ mewn term sy’n disgrifio
anhwylder yn gyffredinol, yn hytrach na sefyllfa glinigol mewn unigolyn,
yn ymddangos i mi yn arfer da iawn, oni bai bod rheswm arbennig e.e. os
nad oes gan neb glem be sy’n ei achosi (e.e. ‘pyrexia of unknown origin’ -
term wedi ennill ei le ar ol ei ddefnyddio am flynyddoedd lawer). Wrth
gwrs bod gorbwysedd yn rhannol yn genetig ayyb ond mae llawer o
anhwylderau eraill heb un achos penodol, ac yn amlffactoraidd (“essential
hypertension has a multifactorial aetiology” yn ôl Kumar & Clark). E.e.
fyddai hi’n gywir dweud “Clefyd Parkinson heb achos” am ‘idiopathic
Parkinsonism’? ayyb.
Hwyl,
Dafydd
On Mon, 11 Jul 2005 10:14:04 +0100, Berwyn Jones
<[log in to unmask]> wrote:
>Wnes i ddim meddwl edrych yn Balličre er i mi chwilota mewn pob math o
>lyfrau eraill cyn cynnig 'diachos'. ... Dyw Bailliere ddim yn cynnwys
>'essential tremor' am nad yw'n derm i fydwragedd, mae'n debyg. Fe fues
i'n
>ystyried a wnâi 'cynhenid' y tro, ond tybiwn fod rhaid edrych yn gyntaf i
>weld a oedd y termau 'inherent/in-built/built-in/native tremor' yn bod, a
>doedd gen i ddim digon o amser i wneud hynny.
>
>Berwyn
>
>----- Original Message -----
>From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Monday, July 11, 2005 10:00 AM
>Subject: Re: essential hypertension
>
>
>> Er diddordeb - beth mae Bailliere yn ei roi am 'essential tremor'?
>>
>> Dafydd
>>
>>
>> On Sun, 10 Jul 2005 10:39:27 +0100, Muiris Mag Ualghairg
>> <[log in to unmask]> wrote:
>>
>>>Mae Geiriadur Bydwragedd Bailliere yn rhoi esboniad manwl (a hir) o'r
>> ystyr
>>>
>>>"pwysau gwaed sy'n uchel yn barhaus; nid yw'r achos yn hysbys, mae mae
>>>etifeddeg yn ffactor ragdueddol pwysig ....."
>>>
>>>Ni wn paham dewisiwyd 'heb achos' yn lle 'hanfodol' ond mae'n rhaid bod
>>>rheswm ac rwy'n fodlon derbyn barn yr arbenigwyr yn y maes penodol hwn.
>>>
>>>Muiris
>>
>>
>>
>> --
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG Anti-Virus.
>> Version: 7.0.323 / Virus Database: 267.8.11/45 - Release Date:
09/07/2005
>>
>>
|