Fe fyddwn i'n fodlon mentro ceiniog neu ddwy nad yw ailgylchu a 'salvage' yr
un peth â'i gilydd.
Er enghraifft, bwriwch fod car wedi cael ei racso mewn gwrthdrawiad.
Byddai'r salvage operators yn mynd yno i glirio'r llanast. Efallai y byddai
modd ailddefnyddio rhai o'r cydrannau, ac ailgylchu rhai eraill, ond gallai
fod rhaid i rywfaint o'r car gael ei anfon i'r domen sbwriel i gael ei
gladdu, am nad oes yna farchnad a dim elw i'w wneud.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Howard Huws
Sent: 05 July 2005 11:07
To: [log in to unmask]
Subject: Motor Salvage Operators Regulations 2002
"Rheoliadau Ailgylchwyr Moduron 2002" yn symlach, efallai, heb golli dim
o'r gwirionedd. Nid rhaid iddynt fod yn hen, ac nid yw "vehicles" yn yr enw
gwreiddiol.
HH.
|