Dw i'n gwybod bod GyrA yn dweud "the fictitious form "celf" is in
occasional use", ond rwy'n credu y gallwn ddweud bod y ffurf wedi ennill
ei phlwyf yn yr iaith safonol - "y Babell Gelf a Chrefft"; "Celf yn y
Cwricwlwm Cenedlaethol" etc.
Yr unig beth - mae "celf" yn cyfleu'r ystyr "celfyddyd weledol" i mi -
yn hytrach na phethau fel drama aballu sy'n cael eu cynnwys yn "arts".
Ydw i'n iawn?
Taflu dwr oer ar awgrymiadau pawb, y dyddiau yma, sori!
Cofion
Siān
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of annes
Sent: 08 July 2005 11:55
To: [log in to unmask]
Subject: arts active
Diolch, Geraint - dyna oeddwn i wedi'i feddwl - diolch am gadarnhau.
(Rwan
mi ddeudith rhywun na dydi celf ddim yn iawn).
Annes
|