> Bu cryn drafod ar hyn wrth gyfieithu Microsoft Windows, ac ar gyngor arbenigwyr cyfrifiadurol cytunwyd ar "briwsion" am cookies, gan mai dyna ydi'r cysyniad y tu ol i'r peth mewn gwirionedd.
Dyna ddangos faint mai Microsoft yn gwybod am hanes y gair 'te.
(ei arch elyn Netscape a'i ddefnyddiodd gynta, yn addasu o
syniadau yn systemau X/ Unix).
Os am gyfieithu y gair o'i hanfod, rhyw fath o 'docyn' fase'r
ystyr - ffordd o ddanfon gwybodaeth rhwng cleient a gweinydd
mewn system 'ddi-stad' (stateless).
Mae fel petai gwefan yn dweud "here's a cookie for you" (sydd dwi'n
meddwl yn ymadrodd Americanaidd pan fo rhiant eisiau cael gwared
ar blentyn yn swnian, nid fod hynny yn berthnasol iawn erbyn hyn).
Mae'r porwr yn "bwyta'r" cookie ac yn ei boeri allan ar bob
gofyniad i'r wefan yna o hynny ymlaen. Felly mae hyn yn creu
cysylltiad 'stateful' allan o un 'stateless'.
Mae'n debyg i'r bandiau rhif y cewch chi wrth fynd i nofio.. sdim
wir ots beth sydd wedi ysgrifennu ar y band, dim ond fod e'n
creu cysylltiad dros-dro, anhysbys rhyngddo chi a'ch locyr. Sdim
angen i neb gadw cofnod canolog o unrhyw wybodaeth a mae'r un
egwyddor mewn cysylltiad rhwng porwr a gwefan.
Dyw 'briwsionyn' ddim yn gwneud llawer o synnwyr felly, a dyw e
ddim yn datgelu unrhywbeth 'amlwg' i siaradwr Cymraeg am be yw
cookies yng nghyd-destun technoleg. Y briwsion yw'r man wastraff
sy'n cael ei greu wrth fwyta bisged, ond mae bisgedi yn rywbeth
adnabyddus sydd i gyd yr un fath.
Mae'r ddelwedd o 'cookie' yn cael ei ddefnyddio mewn termau
pellach yn y maes gyda pethau fel 'cookie jar' (dyw bwyta paced o
friwsion ddim yn apelgar iawn).
Felly os nad ydym yn defnyddio term fel 'tocyn' sy'n eitha diflas
ac yn ymddangos mewn geirfa technoleg/meddalwedd gyda ystyron
arall, yna rhaid dewis rhwng cyfieithiad union gyrchol o cookies
i 'bisgedi' (nid cacennau!) neu cymreigiaid i 'cwci'.
|