Wnaiff “cyffuriau SSRI” y tro? Neu fel arall ‘atalwyr dethol(us?)
adfewnlifiad serotonin’ (h.y. mae’r ansoddair yn disgrifio ‘cyffuriau’,
nid ‘adfewnliwiad’). Efallai bod gair gwell nac adfewnlifiad hefyd.
I bob pwrpas mae ‘uptake’ a ‘reuptake’ yn y cyswllt hwn yr un peth, er bod
reuptake ychydig yn fwy cywir.
Ynglŷn ag ystyr gwyddonol ‘uptake’:
Mae serotonin yn bresennol mewn cadwynau o nerfau yn yr ymennydd (a
lleoedd eraill). Mae’n cael ei ollwng o derfyn nerf pan ddaw ton
(ysgogiad) drydanol ar hyd y nerf. Mae’r serotonin wedyn yn cael effaith
ffarmacolegol ar gellgorff y nerf nesaf yn y gadwyn. Ond, mae terfyn y
nerf (o’r lle daeth y serotonin) yn cymryd y serotonin i fyny yn ôl ('re-
uptake', felly) rhag iddo gael effaith rhy hir, a rhag iddo gael ei
wastraffu. Taclus, yntê? Yna, pan ddaw’r ysgogiad nesaf, mae’r serotonin
ar gael i fynd drwy’r rigmarôl i gyd unwaith yn rhagor.
Yn ôl yr hanes (anghywir a gor-syml mae’n debyg, ond mae’n ddigon da i’n
pwrpas ni) nid oes gan bobl sydd yn dioddef ag iselder ysbryd ddigon o
serotonin yn y nerfau. Felly, mae rhwystro’r serotonin rhag dychwelyd yn
ôl i adran derfynol y nerf – trwy ddefnyddio cyffur SSRI, sydd yn
rhwystro's 're-uptake' - yn peri i’r serotonin gael mwy o effaith, am fwy
o amser, a thrwy hynny'n gweithio'n erbyn yr iselder.
Dafydd
On Mon, 20 Jun 2005 12:53:32 +0100, Howard Huws <howard.huws@ENVIRONMENT-
AGENCY.GOV.UK> wrote:
>Cemeg/meddygaeth:
>
>"Selective Serotonin Re-uptake Inhibitors"
>
>Atalwyr Adfewnlifiad Serotonin Detholus? Yr "uptake" yw'r bwgan yma: beth
>yn union yw ei ystyr meddygol? "Mewnlifiad" yw cynnig Geiriadur yr
Academi.
>
>HH.
|