Tybed a oes ystyr ehangach i 'gig'? Hynny yw, pan ddyweda i nag wi'n bita
cig, rwy'n meddwl cig, clustiau, gwaed, llygaid, ysgyfaint, coluddion, cyrn,
blew, ac ati [... ac, a sôn am fyrgyrs a selsig, mae'r gair 'cig' yn aml yn
cael ei ddefnyddio yn yr ystyr ehangach hynny!].
Wedi gweud hynny, mae'n siwr y byddai 'ceuled i lysieuwyr' neu 'geuled
llysieuol' yn gwneud y tro yn ddeche. Wedi'r cwbl, er bod modd hollti blew
amdanyn nhw i gyd: 'ceuled i lysieuwyr' [a neb arall felly] - 'ceuled
llysieuol' [ond nid yw'n cael ei wneud o lysiau] - 'ceuled di-gig' [nace
'cig' yw sudd stumog], eto rwy'n meddwl y byddai'r darllenydd yn deall y tri
... a bwrw ei fod e'n deall beth yw 'ceuled' ondifa!
----- Original Message -----
From: "INC Cyfieithu Translation" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, May 04, 2005 2:13 PM
Subject: Re: vegetarian rennet
Does na ddim cig mewn rennet o stumog llo chwaith. Fel y deudodd John,
ensym sy'n ceulo llefrith sydd mewn rennet.
Wela i ddim o'i le ar 'ceuled i lysieuwyr'.
Wil
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, May 04, 2005 1:59 PM
Subject: Re: vegetarian rennet
O, dw i'n falch bod rhywun arall yn defnyddio di-gig. Dw innau'n gwneud
hefyd. Ond dydw i ddim yn siwr a yw'n hollol addas fan hyn - dim cig
fel ry'n ni'n meddwl amdano yw ceuled.
Dwi'n dal ddim yn hollol hapus â "ceuled i lysfwytawyr" chwaith. Mae
"ceuled di-gig" yn fwy twt o lawer - os yw'n iawn!
Siân
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Matthew Clubb
Sent: 04 May 2005 13:50
To: [log in to unmask]
Subject: Re: vegetarian rennet
Dyw i ddim yn bita cig ac ers blynydde rwy wedi defnyddio 'selsig
di-gig',
'byrgars di-gig' a hyd yn oed 'cig di-gig' [am y stwff 'TVP' yna]. Tybed
a
fyddai 'ceuled di-gig' yn gwneud y tro?
----- Original Message -----
From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, May 04, 2005 11:45 AM
Subject: Re: vegetarian rennet
> Mae "ar gyfer" yn mynd yn dipyn o bla yn y Gymraeg fodern. Nid dyma'r
> cyfieithiad gorau o "for" bob amser. Be sy'n bod ar "ceuled i
lysieuwyr"?
>
> ----- Original Message -----
> From: "Dwynwen" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, May 04, 2005 10:33 AM
> Subject: Re: vegetarian rennet
>
>
> > "Ceuled ar gyfer llysieuwyr" ?
> > Dwynwen
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Wednesday, May 04, 2005 10:26 AM
> > Subject: vegetarian rennet
> >
> >
> > > "Rennet comes from the lining of the calves fourth stomach (or
from
lamb
> > > or
> > > goat).
> > > These days many, many cheeses are made with what is often referred
to
> > > as "vegetarian rennet" Taken literally it always strikes me that
the
> > > phrase
> > > would refer to "the lining of the stomach's of young vegetarians,"
but
> of
> > > course that's just my mischevious mind working overtime. Actually,
as
> you
> > > likely already guessed, vegetarian rennet is actually a
lab-produced
> > > rennet
> > > substitute ..."
> > >
> > > Felly, hyd y gwela i, allwn i ddim dweud "ceuled llysieuol".
> > > "Ceuled nad yw'n cynnwys cynnyrch anifeiliaid"?
> > >
> > >
> >
> >
> > --
> > No virus found in this incoming message.
> > Checked by AVG Anti-Virus.
> > Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.11.0 - Release Date: 29/04/05
> >
> >
>
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.11.3 - Release Date: 03/05/2005
|