Ym mhapur y Guardian ddydd Sadwrn (28-5-5), cynigiodd y colofnydd byd
natur fod enw pentre Rosebush yn tarddu o'r ffurf Gymraeg Rhos-y-bwlch.
Dim ond "Rosebush" - gyda'r pwyslais ar y sillaf olaf gyda llaw - glywes i
erioed, ond does dim sôn am y lle yng nghyfrolau BG Charles, felly oes yna
gadarnhad rywle?
|