Os gwelwch yn dda, a oes 'na rywun yno sy'n medru rhoi rhif ffon Rhian
Pierce Jones imi ar frys.
Ffoniodd y bore 'ma efo cwestiynau i Bruce, a dw i wedi bod yn ceisio
ffonio'n ol efo'r atebion, ond dim ond rwan mae rhywun wedi ateb y ffon imi
gael gwybod 'mod i wedi cael y rhif anghywir.
Mae negeseuon e-bost yn cymryd oesoedd i'm cyrraedd, a 'dyn ni'n gadael am
Aberystwyth cyn bo hir, felly a alla i ofyn ichi *ffonio" fi cyn gynted ag y
bo modd a/neu drosglwyddo'r neges isod at Rian.
Diolch yn fawr iawn,
Ann (01248 371987)
West Mouse - Maen y Bugail (Geiriadur yr Academi)
Freshwater Bay - Ceg yr Afon (Enwau Lleoedd Môn, t. 137)
Llanbadrig Head - Trwyn y Buarth (Geiriadur yr Academi)
Llanlleiana Head - Dinas Gynfor (North Wales Coastal Pilot)
Carmel Head - Trwyn y Gadair (Enwau Lleoedd Môn)
I fod yn hollol fanwl, enw Carmel Head (y bryncyn) yw Pen Bryn yr Eglwys, ac
enw Carmel Point yw Trwyn y Gadair, ond fe ddrysir y ddau yn aml, ac mae'n
ymddangos o'r cwestiynau sydd gennych mai'r "Point" sydd mewn golwg.
|