Fyddai 'mynnu sbec ar'... neu 'mynnu golwg ar...' yn well na 'mynnu gair
â...'
I mi byddai'r gorchmynnol yn swnio'n well... mynnwch fywyd, mynnwch drefn
etc.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Steven Gibbs
Sent: 25 April 2005 15:05
To: [log in to unmask]
Subject: get a life, get sorted, get onto careerswales.com
Mae cyfieithwyr allanol wedi bod yn gweithio ar ddeunyddiau marchnata i
ni. Ar gyfer "Get a life, get sorted, get onto... careerswales.com" eu
cynnig gorau oedd "Mynnu bywyd, mynnu trefn, mynnu gair ... " I mi, mae'r
ddau gyntaf yn gweithio'n berffaith ond dyw'r trydydd ddim yn cyfleu ystyr
y Saesneg yn iawn.
Opsiwn arall yw dweud rhywbeth fel: "Ewch amdani, ewch ------, ewch i
gyrfacymru.com"
All unrhyw un lenwi'r bwlch i ni neu gynnig rhywbeth gwell??
Bydd y taflenni'n cael eu hargraffu tua diwedd yr wythnos, felly does dim
llawer o amser ar ôl yn anffodus!
Diolch yn fawr o flaen llaw!
Steve
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.10.2 - Release Date: 21/04/2005
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.10.2 - Release Date: 21/04/2005
|