Berwyn, mae GPC yn rhoi un enghraifft o'r ferf ddefnyddiol honno "aredrych"
(o'r 16g.) ac fe wnaeth yr awdur hwnnw ddefnyddio "ar" ar ei hôl.
Hefyd, (er nad berf mohoni, mae'r patrwm yn debyg) mae GyrA yn rhoi "arolwg
ar" yn ogystal ag "arolwg o".
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, April 13, 2005 1:03 PM
Subject: Re: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
Daeth ymateb oddi wrth Pat Donovan, Cyd-Olygydd Geiriadur y Brifysgol:
"1 Dim ond ychydig o arweiniad sydd yn slipiau'r Geiriadur: un enghraifft
o'r `hen' slipiau (1864) - arsylwi ar; un enghraifft o'r slipiau newydd
(1984) - arsylwi ar; a nodyn gan BPJ yn rhoi ei farn ar y mater
(welsh-termau-cymraeg 2003) ac yn ffafrio `arsylwi', ond yn betrus.
"2 Cannoedd o enghreifftiau ar Google; heb edrych (ar) p/bob un wrth gwrs,
ond fe ddywedwn i fod y glorian yn eithaf gwastad: e.e. tua 30 o
enghreifftiau bob un o'r ymadrodd `arsylwi gwersi / arsylwi ar wersi'.
"3 Wedi holi `Cymry da' yn y Geiriadur a'r Ganolfan, mae 5 yn ffafrio
`arsylwi ar' a'r chweched heb farn (ond yn wfftio at y gair!)
"4 Pe bawn i'n ysgrifennu'r erthygl ar y gair ar gyfer GPC heddiw, rwy'n
sicr mai'r cofnod ar gyfer y rhan ymadrodd fyddai `bg. a'i dilyn gan yr
ardd. ar, a hefyd fel ba.'.
"Dwy i ddim yn meddwl ei bod hi'n bosibl deddfu ar hyn o bryd. Mae P(atrick)
J D(onovan) a G(areth) A B(evan) ill dau yn ffafrio `arsylwi ar', os yw
hynny o bwys!"
Mae'n ymddangos, felly, ein bod ni i gyd yn "iawn"!
Fel y mae'r ohebiaeth ar w-t-c wedi dangos, mae hwn yn fater sy'n codi
pwyntiau ehangach lawer na mater yr arddodiad yn unig:
1. Does gennym ddim awdurdod sy'n gallu deddfu ynghylch ffurfiau cywir. Hyd
yn oed petai'r awdurdod hwnnw'n bod, bydai angen iddo ailystyried y ffurfiau
'cywir' o bryd i'w gilydd. Gall term Saesneg newid rhywfaint ar ei ystyr
dros gyfnod ac fe all fod achos lle y gall fod angen gwahaniaethu rhwng dau
derm newydd a defnyddio hen derm Cymraeg am y naill a bathu un newydd am y
llall. Y pen draw, mater o gonfensiwn yw 'cywirdeb', sef yr hyn sydd fwyaf
derbyniol ym marn y gwybodusion.
2. Wrth fathu termau newydd, a berfau'n arbennig, mae'n werth i'r bathwyr
roi cynnig ar defnyddio'r gair mewn sawl cyd-destun i weld, er enghraifft, a
oes angen i arddodiad ddilyn berf sy'n fathiad newydd. Petai'r pwr dab a
fathodd 'arsylwi' wedi nodi 'arsylwi ar' yn hytrach nag 'arsylwi' yn unig,
byddai wedi arbed tipyn o drafferth i ni i gyd. (Dyw e ddim yn fathiad sy'n
apelio ata i, rhaid dweud, ond mae angen rhyw air i gyfleu 'to observe'.)
Cwestiwn i gloi: a oes unrhyw enghraifft arall yn bod o'r arddodiad sy'n
arfer dilyn berf yn cael ei roi fel rhagddodiad ar ddechrau'r ferf honno i
greu berf newydd? Ac os oes, a ailadroddir yr arddodiad ar ôl y ferf honno?
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Delyth Prys" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Monday, April 11, 2005 5:19 PM
Subject: Re: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
Gair i gadarnhau'r hyn mae David wedi'i ysgrifennu. Mae'n hollol iawn
wrth gwrs.
Dyma'r termau a'r teitlau sydd wedi cael statws 1 yng nghronfa'r Cynulliad.
Dylid ychwanegu fodd bynnag nad yw'r rhain yn gyson â'i gilydd bob tro,
neu a bod yn fanwl gywir, fod rhannau o'r teitlau yn anghyson. Y
drafferth wrth gwrs yw nad oes modd mynd yn ôl a newid enw teitl dogfen
unwaith iddi ymddangos.
Enghraifft o hyn yw 'looked after children'. Mae'n codi mewn sawl teitl,
fel arfer yn y Gymraeg fel 'plant sy'n derbyn gofal' ond ceir o leiaf un
enghraifft o 'plant y gofelir amdanynt', hefyd mewn teitl sy'n dwyn
statws 1.
Ar nodyn cadarnhaol, mae gen i deimlad fod pethau'n gwella.
Wrth eu harfer bydd y termau hyn yn dod yn fwy cyfarwydd yn Gymraeg, a
bydd llai o ddryswch.
Unrhyw un yn cofio'r sefyllfa cyn i Wynedd ddechrau gweithredu drwy
gyfrwng y Gymraeg? cyn y Ddeddf Iaith? cyn sefydlu'r Cynulliad? cyn bod
diwydiant cyfieithu yng Nghymru? Mae pethau wedi gwella'n aruthrol y
blynyddoedd diwethaf hyn.
Delyth
Ysgrifennodd David Bullock:
>Yn sgil cyfeiriad Delyth at y Cynulliad, mae'n werth nodi bod un categori o
>waith y Cynulliad y dylen ni feddwl amdano fel y gair olaf, sef
>deddfwriaeth
>y Cynulliad.
>
>Rwy'n credu bod Deddf Llywodraeth Cymru yn dweud rhywbeth i'r perwyl bod
>gan
>y Cynulliad hawl i bennu ystyron geiriau Cymraeg a Saesneg, ac yn y
>rheoliadau a'r gorchmynion sy'n cael eu gwneud gan y Cynulliad fe welwch
>chi
>yn aml fod geiriau ac ymadroddion allweddol y mesur yn cael eu diffinio yn
>y
>ddwy iaith.
>
>Er mor wantan yw grym y Cynulliad, mae gan y geiriau a'r ymadroddion hyn
>rym
>y gyfraith y tu cefn iddyn nhw.
>
>
>
>-----Original Message-----
>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Delyth Prys
>Sent: 11 April 2005 16:26
>To: David Bullock
>Subject: Re: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
>
>
>
>>O ran diddordeb, gan fy mod yn gymharol newydd i'r byd cyfieithu, beth
>>yw'r
>>drefn o ran bathu a safoni termau fel arfer? Gan bwy y mae'r gair olaf ar
>>hyn er enghraifft, os o gwbl?
>>
>>
>>
>Wel, dyna godi cwestiwn diddorol - a dyrys!
>Yr ateb byr yw mai'r sawl sy'n talu sydd biau'r awdurdod.
>Rydyn ni yma yn ceisio safoni termau yn y Ganolfan Safoni Termau
>(bellach Uned e-Gymraeg Canolfan Bedwyr) ers dros ddeng mlynedd.
>Os ydyn ni'n gwneud gwaith i gwsmer ac maen nhw'n dweud mai dyna fydd y
>termau safonol iddyn nhw mae gan hynny 'awdurdod' e.e. gyda'n gwaith i
>ACCAC maen nhw'n gofyn i gyfeithwyr sy'n gwneud gwaith iddyn nhw
>ddefnyddio'r termau hynny, a dyna fydd ar y papurau arholiad - sy'n
>ddadl gref i athrawon eu defnyddio.
>Ond dyw hynny ddim yn gorfodi neb arall i'w defnyddio. Yr un fath gyda'r
>Cynulliad, maen nhw'n gofyn i gyfieithwyr ddefnyddio termau TermCymru,
>ac os nad yw cyfeiithwyr allanol yn eu defnyddio, gallan nhw wrthod talu
>am y gwaith. Ond unwaith eto, does dim rhaid i neb arall eu defnyddio.
>Mae gwrthdaro yn gallu codi os yw dau gorff yn mynnu termau gwahanol -
>ond wedyn mae hyn yn eithaf cyffredin yn y byd rhyngwladol e.e. lle mae
>gan gwmniau ceir eu henwau gwahanol ar yr un darnau.
>
>Wrth gwrs, mae'r fath beth yn bod ag awdurdod moesol - neu o leiaf hyder
>fod corff safoni yn gwneud penderfyniadau call. Ar hyn o bryd mae safon
>rhyngwladol newydd ar safoni yn cael ei greu (wir-yr) ac yn hwn bydd
>consensws yn cael ei enwi fel un o'r angenrheidiau. Efallai mai dyna
>paham rydyn ni wedi bod yn teimlo yn debycach i ddyfarnwyr gêm rygbi nag
>academyddion doeth ers y deng mlynedd diwethaf. Gallwch chi ddyfalu pwy
>sydd ar waelod y sgrym.
>
>Delyth
>
>
>
>>____________________
>>Meinir Eluned Jones
>>Cyfieithydd / Translator
>>Gyrfa Cymru
>>Prif Swyddfa
>>5 Stryd y Castell
>>Caernarfon
>>LL55 1SE
>>
>>Ffôn uniongyrchol / direct phone no: 01286 679282
>>E-bost/ E-mail: [log in to unmask]
>>www.gyrfacymru.com
>>
>>-----Original Message-----
>>From: Sian Roberts [mailto:[log in to unmask]]
>>Sent: 11 April 2005 15:30
>>To: [log in to unmask]
>>Subject: RE: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
>>
>>Cytunaf i â'r ardderchocach Ddavid.
>>Yes!!
>>
>>Ond, yn y frawddeg dan sylw, tybed a fyddai "dylech drefnu i fod yn
>>bresennol yn y cyfweliadau" yn swnio'n fwy naturiol?
>>
>>-----Original Message-----
>>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
>>Sent: 11 April 2005 15:23
>>To: [log in to unmask]
>>Subject: RE: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
>>
>>Efallai 'mod i'n un o'r rhai y mae Berwyn wedi'u gweld yn defnyddio
>>"ar".
>>
>>Mae'n ddiddorol bod Geiriadur yr Academi yn cofnodi dwy ferf: "arsyllu
>>(rhth, ar rth)" neu "arsylwi (ar rth)". Hynny yw, dyw e ddim wedi
>>cofnodi
>>enghreifftiau lle mae "arsylwi" yn cael ei ddilyn gan wrthrych heb yr
>>arddodiad.
>>
>>Dwy ddim yn deall pam y byddai berf sy'n cael ei defnyddio mewn cyfuniad
>>ag
>>arddodiad yn colli'r arddodiad wedyn wrth i ragddodiad gael ei ychwanegu
>>ati
>>i greu berf gyfansawdd.
>>
>>Hynny yw, dyw "canolbwyntio ar ei waith" ddim yn troi'n "gorganolbwyntio
>>ei
>>waith", dyw "edrychwch arno fe" ddim yn troi'n "ciledrychwch e", dyw
>>"gwenu
>>ar ryw ferch" ddim yn troi'n "crechwenu rhyw ferch". Er ychwanegu
>>rhagddodiad, mae'r arddodiad yn cael ei gadw yr un fath.
>>
>>mae hyn eto yn ffafrio cadw "ar" ar ôl "arsylwi".
>>
>>Eto i gyd, mae "ar-" fel rhagddodiad yn wahanol i'r rhain wrth gwrs, am
>>ei
>>fod yn unffurf â'r arddodiad "ar". Ac mae'n ymddangos bod rhyw rwystr yn
>>cadw rhai siaradwyr o leiaf rhag ailadrodd yr un ffurf fel rhagddodiad
>>ac
>>arddodiad yn yr un ymadrodd. Pam dylai hynny fod tybed?
>>
>>
>>
>>
>>
>>-----Original Message-----
>>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Berwyn Jones
>>Sent: 11 April 2005 14:20
>>To: David Bullock
>>Subject: Re: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
>>
>>
>>Na minne chwaith. Gan mai cyfuniad yw 'arsylwi' yw 'ar' a 'sylwi',
>>byddwn
>>i'n dadlau nad oes angen ailadrodd yr 'ar', er 'mod i wedi gweld hynny
>>mewn
>>sawl cyfieithiad dros y blynyddoedd. Yr unig enghraifft arall y gwn i
>>amdani
>>o 'ar' + xxxx + 'ar' yw 'arbenigo ar', ond gan nad 'ar' + 'penigo' (!)
>>roddodd fod i'r ffurf honno, dyw hynny'n ddim help.
>>
>>Mae'n bosib, wrth gwrs, na wnaeth y rhai a fathodd 'arsylwi' ddim
>>ystyried a
>>ddylid rhoi 'ar' wrth ei gwt e.
>>
>>Berwyn
>>
>>----- Original Message -----
>>From: "Roberts, Nia" <[log in to unmask]>
>>To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
>>Sent: Monday, April 11, 2005 2:03 PM
>>Subject: RE: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
>>
>>
>>Fyddwn i ddim yn ychwanegu'r arddodiad. 'Arsylwi staff/plant/dosbarth
>>fyddwn i'n ei ddweud.
>>Nia
>>
>>
>>
>>
>>>----------
>>>From: Meinir Jones[SMTP:[log in to unmask]]
>>>Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>vocabulary
>>>Sent: 11 April 2005 13:39
>>>To: [log in to unmask]
>>>Subject: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
>>>
>>><<File: image001.gif>>
>>>Helo!
>>>A oes angen 'ar' ar ôl arsylwi, h.y "arsylwi staff" ynteu "arsylwi ar
>>>staff" ddylem ni ei ddweud?
>>>Diolch rhag blaen am unrhyw oleuni ar y mater!
>>>Meinir
>>>____________________
>>>Meinir Eluned Jones
>>>Cyfieithydd / Translator
>>>Gyrfa Cymru
>>>Prif Swyddfa
>>>5 Stryd y Castell
>>>Caernarfon
>>>LL55 1SE
>>>Ffôn uniongyrchol / direct phone no: 01286 679282
>>>E-bost/ E-mail: [log in to unmask]
>>><mailto:[log in to unmask]>
>>>www.gyrfacymru.com <http://www.gyrfacymru.com>
>>>
>>>
>>>_______________________________________________________
>>>
>>>Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn
>>>gyfrinachol, ac fe'u bwriedir ar gyfer defnydd yr unigolyn neu'r
>>>
>>>
>>>
>>hanfod
>>
>>
>>
>>>y'u cyfeirir hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn ar
>>>
>>>
>>>
>>gam
>>
>>
>>
>>>a wnewch chi roi gwybod i'r sawl a'i hanfonodd os gwelwch yn dda.
>>>
>>>
>>>
>>Nodwch
>>
>>
>>
>>>mai barn yr awdur yn unig yw unrhyw un a gyflwynir yn yr e-bost hwn,
>>>
>>>
>>>
>>ac
>>
>>
>>
>>>nid ydyw o anghenraid yn cynrychioli barn Gyrfa Cymru. Yn olaf,
>>>
>>>
>>>
>>dylai'r
>>
>>
>>
>>>derbynnydd wirio'r e-bost hwn ac unrhyw atodion rhag presenoldeb
>>>
>>>
>>>
>>firysau.
>>
>>
>>
>>>Nid yw'r cwmni'n derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod a achosir
>>>
>>>
>>>
>>gan
>>
>>
>>
>>>unrhyw firws a drosglwyddir gan yr e-bost hwn. www.gyrfacymru.com
>>>
>>>This email and any files transmitted with it are confidential and
>>>
>>>
>>>
>>intended
>>
>>
>>
>>>solely for the use of the individual or entity to whom they are
>>>
>>>
>>>
>>addressed.
>>
>>
>>
>>>If you have received this email in error please notify the sender.
>>>
>>>
>>>
>>Please
>>
>>
>>
>>>note that any views or opinions presented in this email are solely
>>>
>>>
>>>
>>those
>>
>>
>>
>>>of the author and do not necessarily represent those of Careers Wales.
>>>Finally, the recipient should check this email and any attachments for
>>>
>>>
>>>
>>the
>>
>>
>>
>>>presence of viruses. The company accepts no liability for any damage
>>>caused by any virus transmitted by this email. www.careerswales.com
>>>
>>>
>>>
>>>
>>>
>>******************************************************************
>>
>>This email and any files transmitted with it are confidential
>>and intended solely for the use of the individual or entity to
>>whom they are addressed. If you have received this email in error
>>please notify the administrator on the following address:
>> [log in to unmask]
>>
>>
>>Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn
>>gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd
>>hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy
>>gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
>> [log in to unmask]
>>
>>*******************************************************************
>>
>><b>_______________________________________________________
>>
>>Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn
>>gyfrinachol,
>>ac fe'u bwriedir ar gyfer defnydd yr unigolyn neu'r hanfod y'u cyfeirir
>>hwy
>>atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn ar gam a wnewch chi roi
>>gwybod i'r sawl a'i hanfonodd os gwelwch yn dda. Nodwch mai barn yr awdur
>>
>yn
>
>>unig yw unrhyw un a gyflwynir yn yr e-bost hwn, ac nid ydyw o anghenraid
>>yn
>>cynrychioli barn Gyrfa Cymru. Yn olaf, dylai'r derbynnydd wirio'r e-bost
>>
>hwn
>
>>ac unrhyw atodion rhag presenoldeb firysau. Nid yw'r cwmni'n derbyn unrhyw
>>atebolrwydd am unrhyw ddifrod a achosir gan unrhyw firws a drosglwyddir
>>gan
>>yr e-bost hwn. www.gyrfacymru.com
>>
>>This email and any files transmitted with it are confidential and intended
>>solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed.
>>If you have received this email in error please notify the sender. Please
>>note that any views or opinions presented in this email are solely those
>>of
>>the author and do not necessarily represent those of Careers Wales.
>>
>Finally,
>
>>the recipient should check this email and any attachments for the presence
>>of viruses. The company accepts no liability for any damage caused by any
>>virus transmitted by this email. www.careerswales.com</b>
>>
>>
>>
>>
>
>
|