Efallai 'mod i'n un o'r rhai y mae Berwyn wedi'u gweld yn defnyddio "ar".
Mae'n ddiddorol bod Geiriadur yr Academi yn cofnodi dwy ferf: "arsyllu
(rhth, ar rth)" neu "arsylwi (ar rth)". Hynny yw, dyw e ddim wedi cofnodi
enghreifftiau lle mae "arsylwi" yn cael ei ddilyn gan wrthrych heb yr
arddodiad.
Dwy ddim yn deall pam y byddai berf sy'n cael ei defnyddio mewn cyfuniad ag
arddodiad yn colli'r arddodiad wedyn wrth i ragddodiad gael ei ychwanegu ati
i greu berf gyfansawdd.
Hynny yw, dyw "canolbwyntio ar ei waith" ddim yn troi'n "gorganolbwyntio ei
waith", dyw "edrychwch arno fe" ddim yn troi'n "ciledrychwch e", dyw "gwenu
ar ryw ferch" ddim yn troi'n "crechwenu rhyw ferch". Er ychwanegu
rhagddodiad, mae'r arddodiad yn cael ei gadw yr un fath.
mae hyn eto yn ffafrio cadw "ar" ar ôl "arsylwi".
Eto i gyd, mae "ar-" fel rhagddodiad yn wahanol i'r rhain wrth gwrs, am ei
fod yn unffurf â'r arddodiad "ar". Ac mae'n ymddangos bod rhyw rwystr yn
cadw rhai siaradwyr o leiaf rhag ailadrodd yr un ffurf fel rhagddodiad ac
arddodiad yn yr un ymadrodd. Pam dylai hynny fod tybed?
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Berwyn Jones
Sent: 11 April 2005 14:20
To: David Bullock
Subject: Re: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
Na minne chwaith. Gan mai cyfuniad yw 'arsylwi' yw 'ar' a 'sylwi', byddwn
i'n dadlau nad oes angen ailadrodd yr 'ar', er 'mod i wedi gweld hynny mewn
sawl cyfieithiad dros y blynyddoedd. Yr unig enghraifft arall y gwn i amdani
o 'ar' + xxxx + 'ar' yw 'arbenigo ar', ond gan nad 'ar' + 'penigo' (!)
roddodd fod i'r ffurf honno, dyw hynny'n ddim help.
Mae'n bosib, wrth gwrs, na wnaeth y rhai a fathodd 'arsylwi' ddim ystyried a
ddylid rhoi 'ar' wrth ei gwt e.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Roberts, Nia" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Monday, April 11, 2005 2:03 PM
Subject: RE: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
Fyddwn i ddim yn ychwanegu'r arddodiad. 'Arsylwi staff/plant/dosbarth
fyddwn i'n ei ddweud.
Nia
> ----------
> From: Meinir Jones[SMTP:[log in to unmask]]
> Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> Sent: 11 April 2005 13:39
> To: [log in to unmask]
> Subject: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
>
> <<File: image001.gif>>
> Helo!
> A oes angen 'ar' ar ôl arsylwi, h.y "arsylwi staff" ynteu "arsylwi ar
> staff" ddylem ni ei ddweud?
> Diolch rhag blaen am unrhyw oleuni ar y mater!
> Meinir
> ____________________
> Meinir Eluned Jones
> Cyfieithydd / Translator
> Gyrfa Cymru
> Prif Swyddfa
> 5 Stryd y Castell
> Caernarfon
> LL55 1SE
> Ffôn uniongyrchol / direct phone no: 01286 679282
> E-bost/ E-mail: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> www.gyrfacymru.com <http://www.gyrfacymru.com>
>
>
> _______________________________________________________
>
> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn
> gyfrinachol, ac fe'u bwriedir ar gyfer defnydd yr unigolyn neu'r hanfod
> y'u cyfeirir hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn ar gam
> a wnewch chi roi gwybod i'r sawl a'i hanfonodd os gwelwch yn dda. Nodwch
> mai barn yr awdur yn unig yw unrhyw un a gyflwynir yn yr e-bost hwn, ac
> nid ydyw o anghenraid yn cynrychioli barn Gyrfa Cymru. Yn olaf, dylai'r
> derbynnydd wirio'r e-bost hwn ac unrhyw atodion rhag presenoldeb firysau.
> Nid yw'r cwmni'n derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod a achosir gan
> unrhyw firws a drosglwyddir gan yr e-bost hwn. www.gyrfacymru.com
>
> This email and any files transmitted with it are confidential and intended
> solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed.
> If you have received this email in error please notify the sender. Please
> note that any views or opinions presented in this email are solely those
> of the author and do not necessarily represent those of Careers Wales.
> Finally, the recipient should check this email and any attachments for the
> presence of viruses. The company accepts no liability for any damage
> caused by any virus transmitted by this email. www.careerswales.com
>
>
******************************************************************
This email and any files transmitted with it are confidential
and intended solely for the use of the individual or entity to
whom they are addressed. If you have received this email in error
please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn
gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd
hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy
gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]
*******************************************************************
|