Wel mi fyddwn i'n cynnwys yr arddodiad ar ôl arsylwi bob tro. Rydw i wastad
wedi cymryd bod 'arsylwi' yn golygu rhyw broses wahanol (mwy gweithredol
falle) na jyst 'sylwi ar'. Os mai cyfystyron ydyn nhw wela i ddim rheswm i
ddefnyddio 'arsylwi' byth. A chymryd bod y ddau air yn golygu dau beth
gwahanol, pa reswm sydd yna i newid y gystrawen wrth ddefnyddio 'arsylwi',
ac mae 'arsylwi rhywbeth' yn taro'n chwithig iawn ar fy nglust i.
Gyda llaw, mae GyrA yn rhoi 'arsyllu (rhth, ar rth) - a hefyd 'arsylwi (ar
rth)'.
Tegwen
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, April 11, 2005 2:20 PM
Subject: Re: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
Na minne chwaith. Gan mai cyfuniad yw 'arsylwi' yw 'ar' a 'sylwi', byddwn
i'n dadlau nad oes angen ailadrodd yr 'ar', er 'mod i wedi gweld hynny mewn
sawl cyfieithiad dros y blynyddoedd. Yr unig enghraifft arall y gwn i amdani
o 'ar' + xxxx + 'ar' yw 'arbenigo ar', ond gan nad 'ar' + 'penigo' (!)
roddodd fod i'r ffurf honno, dyw hynny'n ddim help.
Mae'n bosib, wrth gwrs, na wnaeth y rhai a fathodd 'arsylwi' ddim ystyried a
ddylid rhoi 'ar' wrth ei gwt e.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Roberts, Nia" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Monday, April 11, 2005 2:03 PM
Subject: RE: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
Fyddwn i ddim yn ychwanegu'r arddodiad. 'Arsylwi staff/plant/dosbarth
fyddwn i'n ei ddweud.
Nia
> ----------
> From: Meinir Jones[SMTP:[log in to unmask]]
> Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> Sent: 11 April 2005 13:39
> To: [log in to unmask]
> Subject: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
>
> <<File: image001.gif>>
> Helo!
> A oes angen 'ar' ar ôl arsylwi, h.y "arsylwi staff" ynteu "arsylwi ar
> staff" ddylem ni ei ddweud?
> Diolch rhag blaen am unrhyw oleuni ar y mater!
> Meinir
> ____________________
> Meinir Eluned Jones
> Cyfieithydd / Translator
> Gyrfa Cymru
> Prif Swyddfa
> 5 Stryd y Castell
> Caernarfon
> LL55 1SE
> Ffôn uniongyrchol / direct phone no: 01286 679282
> E-bost/ E-mail: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> www.gyrfacymru.com <http://www.gyrfacymru.com>
>
>
> _______________________________________________________
>
> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn
> gyfrinachol, ac fe'u bwriedir ar gyfer defnydd yr unigolyn neu'r hanfod
> y'u cyfeirir hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn ar gam
> a wnewch chi roi gwybod i'r sawl a'i hanfonodd os gwelwch yn dda. Nodwch
> mai barn yr awdur yn unig yw unrhyw un a gyflwynir yn yr e-bost hwn, ac
> nid ydyw o anghenraid yn cynrychioli barn Gyrfa Cymru. Yn olaf, dylai'r
> derbynnydd wirio'r e-bost hwn ac unrhyw atodion rhag presenoldeb firysau.
> Nid yw'r cwmni'n derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod a achosir gan
> unrhyw firws a drosglwyddir gan yr e-bost hwn. www.gyrfacymru.com
>
> This email and any files transmitted with it are confidential and intended
> solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed.
> If you have received this email in error please notify the sender. Please
> note that any views or opinions presented in this email are solely those
> of the author and do not necessarily represent those of Careers Wales.
> Finally, the recipient should check this email and any attachments for the
> presence of viruses. The company accepts no liability for any damage
> caused by any virus transmitted by this email. www.careerswales.com
>
>
******************************************************************
This email and any files transmitted with it are confidential
and intended solely for the use of the individual or entity to
whom they are addressed. If you have received this email in error
please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn
gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd
hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy
gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]
*******************************************************************
|