Meddyliais y dylwn son - fel rhybudd - am ddau air y bu ron imi eu
camgyfieithu.
Mewn rhyw ddisgrifiad pensaerniol, beth amser yn ol, des ar draws "a pitched
yard". Ffoniais yr awdur i ofyn a oedd hyn yn golygu buarth ar oleddf, neu
a rhyw fath o darmac drosto. Nid oedd y naill na'r llall, ond buarth efo
wyneb o gerrig man wedi'u gosod yn lle cobls mawr. Weithiau gosodid y
cerrig mewn patrymau. Gellid gweld wynebau felly yn Llannerch Aeron,
eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngheredigion.
Heddiw, bu'n rhaid imi gyfieithu adroddiad ar Warchodfa Natur a awgrymodd
"the footpath should be rolled and if possible saclped and then seeded".
Tybed, meddwn i wrth gyfieithydd arall, a yw hyn yn golygu tynnu'r tyweirch.
Cytunwyd. Ond wrth siarad a warden y warchodfa dysgais fod "to scalp" yn
golygu defnyddio "scalpings":
Scalpings are, correctly, the off-cuts or shards created by dressing stone
for building work, ie, a quarry waste. They are not as common as they once
were, as we now use machinery to dress stone and the waste is re-processed
into, say, a select fill, a Type 1 sub-base material, or, ..., a
crushed-rock sand, but the term persists in some parts of the country.
The main use of scalpings nowadays is as a medium quality fill or sub-base
material used in the construction of access paths, car parks, driveways or
other light-use applications where a DTp1 is unavailable or uneconomic. As
there is no hard and fast specification laid down as to what qualifies as
'scalpings', almost any quarry waste or road planings can be, and are passed
off as suitable for driveway construction.
Gochelwch!! (Wythnos nesaf, "tar and feather"!)
Ann
|