Mae TermCymru (statws 1) a gwefan y gronfa ei hun yn rhoi "Y Gronfa Loteri
Fawr". Pam nad Cronfa Fawr y Loteri? Os mai hon yw cronfa'r Loteri Fawr,
beth yw'r Loteri Fach?
Cymeraf y bydd yn rhaid imi ddilyn yr arfer er fy mod i'n teimlo'n
wrthwynebus iawn. Beth yw eich barn chi? A oes cyfiawnhad nad wyf yn ei
ddeall dros yr enw?
Diolch,
Ann
|