A all rhywun ddweud sut i wahaniaethu rhwng 'The Black Mountain' yn Sir
Gaerfyrddin a 'The Black Mountains' yn Siroedd Brycheiniog a Mynwy?
Yn ôl Geiriadur yr Academi a'r Gazetteer, "(Y) Mynydd Du" yw'r ddau.
Mae 'na amryw o enghreifftiau o "Mynyddoedd Duon" a "Mynyddoedd Du" ar y we
ond dydw i ddim eisiau defnyddio'r naill na'r llall o'r rheiny os ydyn
nhw'n anghywir.
Diolch yn fawr
Siân
|