Problea anodd yw pan fo gwaith awdurdodol ee. GA neu GNG yn cynnig amrywiaeth ond heb flaenoriaethu. Rhaid crafu pen, ac heb honni unrhyw arbenigedd, dyma fel y bum i'n meddwl yn yr achos hwn:
1. Ystyr lythrennol nisi yw unless/if not. (Ai 'oni' yw'r cyfieithiad?). Datganiad gan lys yw decree nisi a fydd yn cael ei gadarnhau oni fydd parti a effeithir ganddo yn gallu dangos, o fewn cyfnod penodol, na ddylid gwneud hynny. Go brin y byddai 'datganiad 'oni' yn gwneud y tro. Ac wedyn mae defnyddio 'amodol/cychwynnol/cyntaf etc yn creu pob math o broblemau. Ni fyddai conditional yn iawn, ac mae angen yr ystyr honno mewn cyd-destunau eraill.
Efallai mai cadw at Nisi yw'r gorau yma.
2. Y mae Llwyr yn gyfieithiad manwl o absolute mewn rhai mannau, ee. absolutely and unconditionally, absolute liability. Ond nid yw cystal gydag 'absolute offence'. Nid yw, mi gredaf yn union gyfleu ystyr yr 'absolute' yma.
Awn yn ôl at yr 'oni'. Oni fydd gwrthwynebiad wedi ei brofi, fe fydd y datganiad yn un terfynol, ac ni fydd datganiad arall cyfreithiol gan lys ar y mater.
Tybiaf felly y byddai Terfynol yn well am yr absolute hwn.
Bryn
O.n (answyddogol) A oes unrhyw aelod o'r cylch yn digwydd teithio o gyffiniau Abertawe/Caerdydd I Fangor y Dydd Gwener hwn ac yn gallu cynnig lle i uncreadur bach fyddai'n rhannu'r gost? B.
"Puw, John" <[log in to unmask]> wrote:
GNyG yn cynnig Cyntaf a Nisi ac yna Terfynol a Llwyr.
Dwn i ddim pa un i'w ddefnyddio wedi dweud hyn.
John
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Steven Gibbs
Anfonwyd/Sent: 27 April 2005 09:05
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: decree nisi a decree absolute
Beth yw'r termau cywir ar gyfer 'decree nisi' a 'decree absolute' yng nhyd- destun ysgariad? Dw i di dod o hyd i 'archddyfarniad cyntaf/amodol/nisi'
ac 'archddyfarniad terfynol/absoliwt' ond soi'n siw^r pa rai i'w defnyddio.
Unrhyw sylwadau plîs?
Diolch unwaith eto
Steve
Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon. Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am eich cydweithrediad.
Heddlu Gogledd Cymru
Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication. North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.
This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify the sender if received in error and erase from your system. Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy. Thank you for you co-operation.
North Wales Police
Send instant messages to your online friends http://uk.messenger.yahoo.com
. . .
Ie, cadw at y 'nisi' fyddai orau oni bai (wps) bod gwefan y Gwasanaeth Llysoedd yn dweud fel arall. Llawfer yw llawer o'r geiriau bach Lladin yma, yn arbed chwartiau o inc a chwys.
Yn iach,
Tim
|