Dydi "yfed sesiwn" ddim yn cyfleu yr un peth â "binge drinking" i mi
ond, o roi "binge drinking definition" yn Google, gwelaf fod tipyn o
ddryswch ynghylch ei ystyr.
Yn ôl un diffiniad, mae i ddyn yfed mwy na 5 uned o alcohol mewn un
sesiwn (4 uned i ferch) yn cyfrif fel "binge drinking" ond mae'r syniad
sydd gen i yn nes at y disgrifiad hyn:
"To most people, binge drinking brings to mind a self-destructive and
unrestrained drinking bout lasting for at least a couple of days during
which time the heavily intoxicated drinker "drops out" by not working,
ignoring responsibilities, squandering money, and engaging in other
harmful behaviors such as fighting or risky sex. This view is consistent
with that portrayed in dictionary definitions, in literature, in art,
and in plays or films"
Hmm!
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Muiris Mag
Ualghairg
Sent: 04 April 2005 20:22
To: [log in to unmask]
Subject: Binge Drinking (eto)
Gwn ein bod wedi trafod hyn o'r blaen ond dw i ddim yn meddwl inni ddod
i
gytundeb ar derm a gwelaf fod y Cynulliad yn awgrymu "goryfed yn
gymdeithasol" - yn bersonol dw i ddim yn hoffi hynny gan byddai mynd yn
feddw mewn priodas neu adeg y Nadolig neu mewn rhyw achlysur tebyg yn
cyfrif
fel 'binge drinking'. Mae Tim yn awgrymu 'yfed sesiwn', sydd a mwy o
naws
mynd ati'n fwriadol i feddwi, a chredaf fod hynny'n agosach at ystyr y
Saesneg - felly a fyddai'n dderbyniol i ddefnyddio 'yfed sesiwn' neu a
ddylwn gadw at gynnig y Cynulliad?
Diolch
Muiris
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.9.1 - Release Date: 01/04/2005
|