Traed dani, cer amdani, cer i ... gyrfacymru.com
Os mai at bobol ifanc mae'n anelu mae 'ti' yn fwy anffurfiol na 'chi'.
Neu os oes raid wrth y "chi", be am "...cerwch amdani, cerwch i...". Mae
"ewch" jyst mor ffurfiol.
Geraint
----- Original Message -----
From: "Steven Gibbs" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, April 25, 2005 3:05 PM
Subject: get a life, get sorted, get onto careerswales.com
Mae cyfieithwyr allanol wedi bod yn gweithio ar ddeunyddiau marchnata i
ni. Ar gyfer "Get a life, get sorted, get onto... careerswales.com" eu
cynnig gorau oedd "Mynnu bywyd, mynnu trefn, mynnu gair ... " I mi, mae'r
ddau gyntaf yn gweithio'n berffaith ond dyw'r trydydd ddim yn cyfleu ystyr
y Saesneg yn iawn.
Opsiwn arall yw dweud rhywbeth fel: "Ewch amdani, ewch ------, ewch i
gyrfacymru.com"
All unrhyw un lenwi'r bwlch i ni neu gynnig rhywbeth gwell??
Bydd y taflenni'n cael eu hargraffu tua diwedd yr wythnos, felly does dim
llawer o amser ar ôl yn anffodus!
Diolch yn fawr o flaen llaw!
Steve
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.10.2 - Release Date: 21/04/05
|