Mae cyfieithwyr allanol wedi bod yn gweithio ar ddeunyddiau marchnata i
ni. Ar gyfer "Get a life, get sorted, get onto... careerswales.com" eu
cynnig gorau oedd "Mynnu bywyd, mynnu trefn, mynnu gair ... " I mi, mae'r
ddau gyntaf yn gweithio'n berffaith ond dyw'r trydydd ddim yn cyfleu ystyr
y Saesneg yn iawn.
Opsiwn arall yw dweud rhywbeth fel: "Ewch amdani, ewch ------, ewch i
gyrfacymru.com"
All unrhyw un lenwi'r bwlch i ni neu gynnig rhywbeth gwell??
Bydd y taflenni'n cael eu hargraffu tua diwedd yr wythnos, felly does dim
llawer o amser ar ôl yn anffodus!
Diolch yn fawr o flaen llaw!
Steve
|