"croesawgarwch" nid "croesawgwrch", wrth reswm... (jyst rhag ofn!!)
G
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, April 22, 2005 10:37 AM
Subject: Re: hospitality
> Diolch am yr atebion, ond erbyn hyn 'rwyf wedi cael, gan Olygydd Geiriadur
> yr Academi, gip ar yr atodiad i'r argraffiad nesaf, a fydd yn nodi
rhywbeth
> fel "(where accommodation is implied)" ar gyfer "lletygarwch", a
> "croesawgwrch" fel gair mwy cyffredinol. Tynnwyd fy sylw hefyd at y
cofnod
> ar gyfer "croesawgarwch" yng Ngheiriadur y Brifysgol: "Y nodwedd o fod yn
> groesawgar neu'n llawn croeso, lletygarwch".
>
> Cefais hefyd neges gan Ann Wiliam, y mae gen i ei chaniatad i'w rhannu,
sy'n
> dweud:
> Mae deddfwriaeth etholiadol yn defnyddio "entertainment" yn hytrach na
> "hospitality" i gyfleu yr un peth. "Diddanwch" sydd gen i am
> "entertainment".
>
> Mae Ann yn nodi ei bod hi wedi anfon ar ol gweld neges Tim. Nid wyf i
wedi
> gweld neges Tim eto, felly mae'n amlwg bod y gweinydd 'ma yn dal i rwystro
> rhai negeseuon. Yn aml iawn dw i'n cael atebion i fy ymholiad i'r grwp
cyn
> gweld yr ymholiad yn ymddangos.
>
> Ann
>
>
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, April 20, 2005 10:54 AM
> Subject: Re: hospitality
>
>
> > Mae'n edrych yn debyg mai 'lletygarwch' a ddefnyddir gan y Cynulliad
> >
> > "Ers imi ddod i'r Cynulliad, un o'r pethau sydd wedi fy nharo yw yr
> > ymddengys y gall llawer o gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad a'r
> > elusennau cenedlaethol, os caf gyfeirio atynt felly, fod yn hael iawn eu
> > ***lletygarwch*** a'u derbyniadau i Aelodau'r Cynulliad ac ati."
> >
> > ac
> >
> >
http://www.wales.gov.uk/assemblydata/3B1F4376000C0EA800004B7400000000.html
> > "osgoi derbyn rhoddion oddi wrth neb, na ***lletygarwch*** (heblaw'r
> > lletygarwch a gynigir yng nghwrs cyflawni busnes yr aelod neu fusnes yr
> > awdurdod),..."
> >
> >
> >
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Wednesday, April 20, 2005 10:29 AM
> > Subject: hospitality
> >
> >
> > > Yng nghyd-destun "corporate hospitality" a pholisiau ar
> "whistle-blowing,
> > > acceptance of gifts and hospitality", felly mi all fod yn wahoddiad i
> > > barti
> > > neu ddiwrnod yn Regatta Henley, heb gynnwys o anghenraid aros dros
nos.
> > > Wedi gweld "lletygarwch" a "cyfeillgarwch" (nid gan gyfieithwyr
> > > proffesiynol) heb hoffi'r naill na'r llall. Mae Bruce yn awgrymu
> > > "croesawgarwch", ond hoffwn wybod a oes 'na derm sy'n cael ei arfer
> > > eisoes.
> > >
> > > Diolch yn fawr,
> > >
> > > Ann
> > >
> > >
> > > --
> > > No virus found in this incoming message.
> > > Checked by AVG Anti-Virus.
> > > Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.9.18 - Release Date: 19/04/2005
> > >
> > >
> >
> >
> >
> > --
> > No virus found in this outgoing message.
> > Checked by AVG Anti-Virus.
> > Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.9.18 - Release Date: 19/04/2005
> >
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.10.2 - Release Date: 21/04/05
>
>
|