Diolch am yr atebion, ond erbyn hyn 'rwyf wedi cael, gan Olygydd Geiriadur
yr Academi, gip ar yr atodiad i'r argraffiad nesaf, a fydd yn nodi rhywbeth
fel "(where accommodation is implied)" ar gyfer "lletygarwch", a
"croesawgwrch" fel gair mwy cyffredinol. Tynnwyd fy sylw hefyd at y cofnod
ar gyfer "croesawgarwch" yng Ngheiriadur y Brifysgol: "Y nodwedd o fod yn
groesawgar neu'n llawn croeso, lletygarwch".
Cefais hefyd neges gan Ann Wiliam, y mae gen i ei chaniatad i'w rhannu, sy'n
dweud:
Mae deddfwriaeth etholiadol yn defnyddio "entertainment" yn hytrach na
"hospitality" i gyfleu yr un peth. "Diddanwch" sydd gen i am
"entertainment".
Mae Ann yn nodi ei bod hi wedi anfon ar ol gweld neges Tim. Nid wyf i wedi
gweld neges Tim eto, felly mae'n amlwg bod y gweinydd 'ma yn dal i rwystro
rhai negeseuon. Yn aml iawn dw i'n cael atebion i fy ymholiad i'r grwp cyn
gweld yr ymholiad yn ymddangos.
Ann
Ann
----- Original Message -----
From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, April 20, 2005 10:54 AM
Subject: Re: hospitality
> Mae'n edrych yn debyg mai 'lletygarwch' a ddefnyddir gan y Cynulliad
>
> "Ers imi ddod i'r Cynulliad, un o'r pethau sydd wedi fy nharo yw yr
> ymddengys y gall llawer o gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad a'r
> elusennau cenedlaethol, os caf gyfeirio atynt felly, fod yn hael iawn eu
> ***lletygarwch*** a'u derbyniadau i Aelodau'r Cynulliad ac ati."
>
> ac
>
> http://www.wales.gov.uk/assemblydata/3B1F4376000C0EA800004B7400000000.html
> "osgoi derbyn rhoddion oddi wrth neb, na ***lletygarwch*** (heblaw'r
> lletygarwch a gynigir yng nghwrs cyflawni busnes yr aelod neu fusnes yr
> awdurdod),..."
>
>
>
>
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, April 20, 2005 10:29 AM
> Subject: hospitality
>
>
> > Yng nghyd-destun "corporate hospitality" a pholisiau ar
"whistle-blowing,
> > acceptance of gifts and hospitality", felly mi all fod yn wahoddiad i
> > barti
> > neu ddiwrnod yn Regatta Henley, heb gynnwys o anghenraid aros dros nos.
> > Wedi gweld "lletygarwch" a "cyfeillgarwch" (nid gan gyfieithwyr
> > proffesiynol) heb hoffi'r naill na'r llall. Mae Bruce yn awgrymu
> > "croesawgarwch", ond hoffwn wybod a oes 'na derm sy'n cael ei arfer
> > eisoes.
> >
> > Diolch yn fawr,
> >
> > Ann
> >
> >
> > --
> > No virus found in this incoming message.
> > Checked by AVG Anti-Virus.
> > Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.9.18 - Release Date: 19/04/2005
> >
> >
>
>
>
> --
> No virus found in this outgoing message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.9.18 - Release Date: 19/04/2005
>
|