"H.K.Smith" wrote:
>
> A bod yn fanwl gywir, 'dioddefwr' yw ystyr 'patient' (Ll. patior - berf
> ddeponent - dioddefaf), felly, byddai ystyr wreiddiol yr ansoddair yn
> nes at 'goddefgar', nad yw ymhell iawn o 'amyneddgar'.
>
> Helen
Helen,
Mae hynny'n ddiddorol, ond tydi hi ddim bob amser y peth
gorau i gadw'n agos at ystyr y gair yn yr iaith wreiddiol.
Wedi'r cwbl, mae gan 'patior' hefyd ystyr 'caniata/u',
felly 'caniatawr'?
--Mark
|