A bod yn fanwl gywir, 'dioddefwr' yw ystyr 'patient' (Ll. patior - berf
ddeponent - dioddefaf), felly, byddai ystyr wreiddiol yr ansoddair yn
nes at 'goddefgar', nad yw ymhell iawn o 'amyneddgar'.
Helen
Ysgrifennodd Geraint Løvgreen:
> Wel, faswn i ddim yn deud ei fod o'r un fath yn Saesneg, gan fod y gair
> 'claf' hefyd yn ansoddair sy'n golygu 'sâl, gwael' tra bod y gair 'patient'
> yn ansoddair sy'n golygu 'amyneddgar' (sef beth sydd angen bod os ydych ar
> restr aros, am wn i).
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, April 20, 2005 12:00 PM
> Subject: Re: patient
>
>
>
>>Llawer o ddiolch. Fel mae'n digwydd mae "your patient" yn codi'n nes
>>ymlaen, felly 'rwyf wedi brathu'r bwled a defnyddio'r gair "claf" (ac "un
>>o'ch cleifion" yn y lle cyntaf). Fel mae Bruce yn dweud, mae'r broblem yr
>>un fath yn y Saesneg ond ein bod ni mor cyfarwydd a'r gair.
>>Ann
>>----- Original Message -----
>>From: "M.A.Elis" <[log in to unmask]>
>>To: <[log in to unmask]>
>>Sent: Wednesday, April 20, 2005 11:45 AM
>>Subject: Re: patient
>>
>>
>>
>>>Beth am rywbeth fel 'sydd ar eich rhestr'?
>>>
>>>Ann Corkett wrote:
>>>
>>>>Cwestiwn twp, mae'n siwr.
>>>>
>>>>Pan fyddaf yn wael, neu arnaf eisiau edrych fy nannedd, af at y
>>>>docto-a'r-doctor, neu at y deintydd'-a'r deintydd. Beth ydwyf pan
>>>
> nad
>
>>wyf
>>
>>>>yn wael?
>>>>
>>>>Hynny yw, mae llythyr at feddyg teulu yn gofyn a yw unigolyn yn addas
>>>
> ar
>
>>>>gyfer rhyw swyddogaeth arbennig, ac yn dweud "The above-named person,
>>>
>>who is
>>
>>>>a patient of yours ..." A gyfeirir at rywun fel "claf" yma, er nad
>>>
> yw'n
>
>>>>digwydd bod yn wael ar y pryd?
>>>>
>>>>Diolch,
>>>>
>>>>Ann
>>>
>>>--
>>>M.A.Elis [log in to unmask]
>>>
>>
>>
>>--
>>No virus found in this incoming message.
>>Checked by AVG Anti-Virus.
>>Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.9.18 - Release Date: 19/04/05
>>
>>
>
--
Helen Smith (Cyfieithydd/Translator)
Canolfan Bedwyr
[log in to unmask]
Ffôn/Tel: 01248 383253 (allanol/external)
est/ext 3253 (mewnol/internal)
* * * *
* * *
* * Cathod/Cats
* * Pianos
* *
*
Dyw kaffod ddim yn smygu!
Pussycats don't smoke!
=^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^=
|