Wel, faswn i ddim yn deud ei fod o'r un fath yn Saesneg, gan fod y gair
'claf' hefyd yn ansoddair sy'n golygu 'sāl, gwael' tra bod y gair 'patient'
yn ansoddair sy'n golygu 'amyneddgar' (sef beth sydd angen bod os ydych ar
restr aros, am wn i).
Geraint
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, April 20, 2005 12:00 PM
Subject: Re: patient
> Llawer o ddiolch. Fel mae'n digwydd mae "your patient" yn codi'n nes
> ymlaen, felly 'rwyf wedi brathu'r bwled a defnyddio'r gair "claf" (ac "un
> o'ch cleifion" yn y lle cyntaf). Fel mae Bruce yn dweud, mae'r broblem yr
> un fath yn y Saesneg ond ein bod ni mor cyfarwydd a'r gair.
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: "M.A.Elis" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, April 20, 2005 11:45 AM
> Subject: Re: patient
>
>
> > Beth am rywbeth fel 'sydd ar eich rhestr'?
> >
> > Ann Corkett wrote:
> > >
> > > Cwestiwn twp, mae'n siwr.
> > >
> > > Pan fyddaf yn wael, neu arnaf eisiau edrych fy nannedd, af at y
> > > docto-a'r-doctor, neu at y deintydd'-a'r deintydd. Beth ydwyf pan
nad
> wyf
> > > yn wael?
> > >
> > > Hynny yw, mae llythyr at feddyg teulu yn gofyn a yw unigolyn yn addas
ar
> > > gyfer rhyw swyddogaeth arbennig, ac yn dweud "The above-named person,
> who is
> > > a patient of yours ..." A gyfeirir at rywun fel "claf" yma, er nad
yw'n
> > > digwydd bod yn wael ar y pryd?
> > >
> > > Diolch,
> > >
> > > Ann
> >
> > --
> > M.A.Elis [log in to unmask]
> >
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.9.18 - Release Date: 19/04/05
>
>
|