Os dw i'n cofio'n iawn mae'r gair hwn wedi bod yn destun trafodaeth yn
eithaf diweddar ac roedd pobl oedd yn gweithio ym maes iechyd yn argymell
defnyddio 'claf' mewn unrhyw gyd-destun meddygol. Dw i'n cytuno ei fod yn
swnio'n reit ryfedd mewn rhai cyd-destunau, yn enwedig yn yr unigol,
Mi allai rhywun geisio osgoi defnyddio'r gair o gwbl yn yr enghraifft isod -
e.e. y person a enwir uchod, sydd ar eich rhestr/ cofrestr chi.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 20 April 2005 11:05
To: [log in to unmask]
Subject: patient
Cwestiwn twp, mae'n siwr.
Pan fyddaf yn wael, neu arnaf eisiau edrych fy nannedd, af at y
docto-a'r-doctor, neu at y deintydd'-a'r deintydd. Beth ydwyf pan nad wyf
yn wael?
Hynny yw, mae llythyr at feddyg teulu yn gofyn a yw unigolyn yn addas ar
gyfer rhyw swyddogaeth arbennig, ac yn dweud "The above-named person, who is
a patient of yours ..." A gyfeirir at rywun fel "claf" yma, er nad yw'n
digwydd bod yn wael ar y pryd?
Diolch,
Ann
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.9.11 - Release Date: 14/04/2005
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.9.11 - Release Date: 14/04/2005
|