Dyma gynnig ambell air neu ymadrodd:
vibrant - byw(iog) iawn, byrlymus, yn fwrlwm i gyd
world-class - 'o safon fyd-eang' fydda i'n ei ddefnyddio, er 'mod i'n cydnabod nad yw'n taro deuddeg. Braidd yn amleiriog a llafurus, yn enwedig o'i ddefnyddio fwy nag unwaith yn yr un paragraff, yw 'cystal (os nad gwell n)ag y cewch chwi yn unman/yn y byd'
goals - cyrchnodau
outcomes - bydd rhai pobl yn defnyddio 'deilliannau' i wahaniaethu rhwng 'outcomes' a 'results'. Oni bai bod rhaid gwahaniaethu rhyngddynt, byddwn i'n cadw at 'canlyniadau'. Gall 'ffrwyth' weithio ambell waith.
fantastic - ffantastig, (ffantasïol?), gwych (o beth), rhagorol, campus, ardderchog, tan gamp, rhyfeddol.
closure - cau pen y mwdwl, dod â'r cyfan/mater i ben (yn daclus), dwyn i ben, dod â'r cyfan i fwcwl (a defnyddio ymadrodd sydd ar lafar yn y De, beth bynnag), cau'r mater (yn dwt), rhoi terfyn/diwedd (ar drafodaeth/ffrae ac ati)
bluesky: blue(-)sky research - ymchwil meddwl-cwbl-agored, ymchwil(io) â meddwl cwbl agored; blue(-)sky thinking - meddwl yn gwbl ddilyffethair/rydd (gall y rhain wneud y tro am 'thinking outside the box' hefyd).
target-driven - a thargedau'n nod iddynt/ganddynt, yn anelu/cyrchu at dargedau, sy'n seiledig ar dargedau/ar gyrraedd targedau, targedau sy'n gyrru'r ... (yn eu blaen)
change the culture - newid y diwylliant/meddylfryd/(yr holl) ffordd o feddwl
drive through change - gyrru/gwthio newidiadau yn eu blaen, gweithredu/ysgogi/symbylu newidiadau, bwrw ymlaen â newidiadau
Berwyn
. . . . .
Casgliad gwerthfawr dros ben. Gyda llaw, 'toradh' sef 'ffrwyth' yw'r gair arferol am 'canlyniad yn Wyddeleg. Tybed a fyddai modd gwneud defnydd helaethach o 'ffrwyth' yn y cyswllt yma?
Tim
|