Nid yw'r gyfraith yn son am bosteri yn unig ond hefyd am 'hysbysebion' a
'placardiau' gweler
http://www.hmso.gov.uk/acts/acts1990/Ukpga_19900008_en_13.htm#mdiv224
efallai y byddai'n well ceisio dod o hyd i rywbeth ychydig yn ehangach na
son am bosteri yn unig. Yng Nghaerdydd, a threfi eraill rwy'n siwr, y mae
llawer yn gludo sticeri ar bolion lampau, neu focsys ffon ac ati, ac mae'r
rheiny hefyd yn cyfrif fel 'flyposting' er nad ydynt yn bosteri.
Rhaid i mi ddatgan diddordeb yn y bwnc hwn gan fy mod wedi bod yn rhedeg
ymgyrch yn erbyn 'flypostio' yn ardal y Plasnewydd a'r Rhath yng Nghaerdydd
a'r wythnos nesaf byddaf i'n mynd i gyfarfod o 'Keep Cardiff Tidy' i drafod
y mater gyda hwy - felly os gellir dod o hyd i air addas cyn dydd Mawrth
byddwn i'n ddiolchgar ac yn ceisio ei ddefnyddio yn y drafodaeth!
Muiris
----- Original Message -----
From: "Garmon Davies" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, April 13, 2005 12:38 PM
Subject: Re: fly-posting
Efallai y dylid ychwanegu collnod-n, h.y. dweud 'gosod posteri'n
anghyfreithlon' er mwyn dangos nad y posteri sy'n anghyfreithlon o
anghenraid ond yn hytrach y weithred o'u gosod(?).
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.9.7 - Release Date: 12/04/2005
|