Yn sgil cyfeiriad Delyth at y Cynulliad, mae'n werth nodi bod un categori o
waith y Cynulliad y dylen ni feddwl amdano fel y gair olaf, sef deddfwriaeth
y Cynulliad.
Rwy'n credu bod Deddf Llywodraeth Cymru yn dweud rhywbeth i'r perwyl bod gan
y Cynulliad hawl i bennu ystyron geiriau Cymraeg a Saesneg, ac yn y
rheoliadau a'r gorchmynion sy'n cael eu gwneud gan y Cynulliad fe welwch chi
yn aml fod geiriau ac ymadroddion allweddol y mesur yn cael eu diffinio yn y
ddwy iaith.
Er mor wantan yw grym y Cynulliad, mae gan y geiriau a'r ymadroddion hyn rym
y gyfraith y tu cefn iddyn nhw.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Delyth Prys
Sent: 11 April 2005 16:26
To: David Bullock
Subject: Re: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
>
>O ran diddordeb, gan fy mod yn gymharol newydd i'r byd cyfieithu, beth yw'r
>drefn o ran bathu a safoni termau fel arfer? Gan bwy y mae'r gair olaf ar
>hyn er enghraifft, os o gwbl?
>
>
Wel, dyna godi cwestiwn diddorol - a dyrys!
Yr ateb byr yw mai'r sawl sy'n talu sydd biau'r awdurdod.
Rydyn ni yma yn ceisio safoni termau yn y Ganolfan Safoni Termau
(bellach Uned e-Gymraeg Canolfan Bedwyr) ers dros ddeng mlynedd.
Os ydyn ni'n gwneud gwaith i gwsmer ac maen nhw'n dweud mai dyna fydd y
termau safonol iddyn nhw mae gan hynny 'awdurdod' e.e. gyda'n gwaith i
ACCAC maen nhw'n gofyn i gyfeithwyr sy'n gwneud gwaith iddyn nhw
ddefnyddio'r termau hynny, a dyna fydd ar y papurau arholiad - sy'n
ddadl gref i athrawon eu defnyddio.
Ond dyw hynny ddim yn gorfodi neb arall i'w defnyddio. Yr un fath gyda'r
Cynulliad, maen nhw'n gofyn i gyfieithwyr ddefnyddio termau TermCymru,
ac os nad yw cyfeiithwyr allanol yn eu defnyddio, gallan nhw wrthod talu
am y gwaith. Ond unwaith eto, does dim rhaid i neb arall eu defnyddio.
Mae gwrthdaro yn gallu codi os yw dau gorff yn mynnu termau gwahanol -
ond wedyn mae hyn yn eithaf cyffredin yn y byd rhyngwladol e.e. lle mae
gan gwmniau ceir eu henwau gwahanol ar yr un darnau.
Wrth gwrs, mae'r fath beth yn bod ag awdurdod moesol - neu o leiaf hyder
fod corff safoni yn gwneud penderfyniadau call. Ar hyn o bryd mae safon
rhyngwladol newydd ar safoni yn cael ei greu (wir-yr) ac yn hwn bydd
consensws yn cael ei enwi fel un o'r angenrheidiau. Efallai mai dyna
paham rydyn ni wedi bod yn teimlo yn debycach i ddyfarnwyr gêm rygbi nag
academyddion doeth ers y deng mlynedd diwethaf. Gallwch chi ddyfalu pwy
sydd ar waelod y sgrym.
Delyth
>____________________
>Meinir Eluned Jones
>Cyfieithydd / Translator
>Gyrfa Cymru
>Prif Swyddfa
>5 Stryd y Castell
>Caernarfon
>LL55 1SE
>
>Ffôn uniongyrchol / direct phone no: 01286 679282
>E-bost/ E-mail: [log in to unmask]
>www.gyrfacymru.com
>
>-----Original Message-----
>From: Sian Roberts [mailto:[log in to unmask]]
>Sent: 11 April 2005 15:30
>To: [log in to unmask]
>Subject: RE: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
>
>Cytunaf i â'r ardderchocach Ddavid.
>Yes!!
>
>Ond, yn y frawddeg dan sylw, tybed a fyddai "dylech drefnu i fod yn
>bresennol yn y cyfweliadau" yn swnio'n fwy naturiol?
>
>-----Original Message-----
>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
>Sent: 11 April 2005 15:23
>To: [log in to unmask]
>Subject: RE: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
>
>Efallai 'mod i'n un o'r rhai y mae Berwyn wedi'u gweld yn defnyddio
>"ar".
>
>Mae'n ddiddorol bod Geiriadur yr Academi yn cofnodi dwy ferf: "arsyllu
>(rhth, ar rth)" neu "arsylwi (ar rth)". Hynny yw, dyw e ddim wedi
>cofnodi
>enghreifftiau lle mae "arsylwi" yn cael ei ddilyn gan wrthrych heb yr
>arddodiad.
>
>Dwy ddim yn deall pam y byddai berf sy'n cael ei defnyddio mewn cyfuniad
>ag
>arddodiad yn colli'r arddodiad wedyn wrth i ragddodiad gael ei ychwanegu
>ati
>i greu berf gyfansawdd.
>
>Hynny yw, dyw "canolbwyntio ar ei waith" ddim yn troi'n "gorganolbwyntio
>ei
>waith", dyw "edrychwch arno fe" ddim yn troi'n "ciledrychwch e", dyw
>"gwenu
>ar ryw ferch" ddim yn troi'n "crechwenu rhyw ferch". Er ychwanegu
>rhagddodiad, mae'r arddodiad yn cael ei gadw yr un fath.
>
>mae hyn eto yn ffafrio cadw "ar" ar ôl "arsylwi".
>
>Eto i gyd, mae "ar-" fel rhagddodiad yn wahanol i'r rhain wrth gwrs, am
>ei
>fod yn unffurf â'r arddodiad "ar". Ac mae'n ymddangos bod rhyw rwystr yn
>cadw rhai siaradwyr o leiaf rhag ailadrodd yr un ffurf fel rhagddodiad
>ac
>arddodiad yn yr un ymadrodd. Pam dylai hynny fod tybed?
>
>
>
>
>
>-----Original Message-----
>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Berwyn Jones
>Sent: 11 April 2005 14:20
>To: David Bullock
>Subject: Re: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
>
>
>Na minne chwaith. Gan mai cyfuniad yw 'arsylwi' yw 'ar' a 'sylwi',
>byddwn
>i'n dadlau nad oes angen ailadrodd yr 'ar', er 'mod i wedi gweld hynny
>mewn
>sawl cyfieithiad dros y blynyddoedd. Yr unig enghraifft arall y gwn i
>amdani
>o 'ar' + xxxx + 'ar' yw 'arbenigo ar', ond gan nad 'ar' + 'penigo' (!)
>roddodd fod i'r ffurf honno, dyw hynny'n ddim help.
>
>Mae'n bosib, wrth gwrs, na wnaeth y rhai a fathodd 'arsylwi' ddim
>ystyried a
>ddylid rhoi 'ar' wrth ei gwt e.
>
>Berwyn
>
>----- Original Message -----
>From: "Roberts, Nia" <[log in to unmask]>
>To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
>Sent: Monday, April 11, 2005 2:03 PM
>Subject: RE: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
>
>
>Fyddwn i ddim yn ychwanegu'r arddodiad. 'Arsylwi staff/plant/dosbarth
>fyddwn i'n ei ddweud.
>Nia
>
>
>
>>----------
>>From: Meinir Jones[SMTP:[log in to unmask]]
>>Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>vocabulary
>>Sent: 11 April 2005 13:39
>>To: [log in to unmask]
>>Subject: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
>>
>><<File: image001.gif>>
>>Helo!
>>A oes angen 'ar' ar ôl arsylwi, h.y "arsylwi staff" ynteu "arsylwi ar
>>staff" ddylem ni ei ddweud?
>>Diolch rhag blaen am unrhyw oleuni ar y mater!
>>Meinir
>>____________________
>>Meinir Eluned Jones
>>Cyfieithydd / Translator
>>Gyrfa Cymru
>>Prif Swyddfa
>>5 Stryd y Castell
>>Caernarfon
>>LL55 1SE
>>Ffôn uniongyrchol / direct phone no: 01286 679282
>>E-bost/ E-mail: [log in to unmask]
>><mailto:[log in to unmask]>
>>www.gyrfacymru.com <http://www.gyrfacymru.com>
>>
>>
>>_______________________________________________________
>>
>>Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn
>>gyfrinachol, ac fe'u bwriedir ar gyfer defnydd yr unigolyn neu'r
>>
>>
>hanfod
>
>
>>y'u cyfeirir hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn ar
>>
>>
>gam
>
>
>>a wnewch chi roi gwybod i'r sawl a'i hanfonodd os gwelwch yn dda.
>>
>>
>Nodwch
>
>
>>mai barn yr awdur yn unig yw unrhyw un a gyflwynir yn yr e-bost hwn,
>>
>>
>ac
>
>
>>nid ydyw o anghenraid yn cynrychioli barn Gyrfa Cymru. Yn olaf,
>>
>>
>dylai'r
>
>
>>derbynnydd wirio'r e-bost hwn ac unrhyw atodion rhag presenoldeb
>>
>>
>firysau.
>
>
>>Nid yw'r cwmni'n derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod a achosir
>>
>>
>gan
>
>
>>unrhyw firws a drosglwyddir gan yr e-bost hwn. www.gyrfacymru.com
>>
>>This email and any files transmitted with it are confidential and
>>
>>
>intended
>
>
>>solely for the use of the individual or entity to whom they are
>>
>>
>addressed.
>
>
>>If you have received this email in error please notify the sender.
>>
>>
>Please
>
>
>>note that any views or opinions presented in this email are solely
>>
>>
>those
>
>
>>of the author and do not necessarily represent those of Careers Wales.
>>Finally, the recipient should check this email and any attachments for
>>
>>
>the
>
>
>>presence of viruses. The company accepts no liability for any damage
>>caused by any virus transmitted by this email. www.careerswales.com
>>
>>
>>
>>
>
>
>******************************************************************
>
>This email and any files transmitted with it are confidential
>and intended solely for the use of the individual or entity to
>whom they are addressed. If you have received this email in error
>please notify the administrator on the following address:
> [log in to unmask]
>
>
>Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn
>gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd
>hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy
>gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
> [log in to unmask]
>
>*******************************************************************
>
><b>_______________________________________________________
>
>Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol,
>ac fe'u bwriedir ar gyfer defnydd yr unigolyn neu'r hanfod y'u cyfeirir hwy
>atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn ar gam a wnewch chi roi
>gwybod i'r sawl a'i hanfonodd os gwelwch yn dda. Nodwch mai barn yr awdur
yn
>unig yw unrhyw un a gyflwynir yn yr e-bost hwn, ac nid ydyw o anghenraid yn
>cynrychioli barn Gyrfa Cymru. Yn olaf, dylai'r derbynnydd wirio'r e-bost
hwn
>ac unrhyw atodion rhag presenoldeb firysau. Nid yw'r cwmni'n derbyn unrhyw
>atebolrwydd am unrhyw ddifrod a achosir gan unrhyw firws a drosglwyddir gan
>yr e-bost hwn. www.gyrfacymru.com
>
>This email and any files transmitted with it are confidential and intended
>solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed.
>If you have received this email in error please notify the sender. Please
>note that any views or opinions presented in this email are solely those of
>the author and do not necessarily represent those of Careers Wales.
Finally,
>the recipient should check this email and any attachments for the presence
>of viruses. The company accepts no liability for any damage caused by any
>virus transmitted by this email. www.careerswales.com</b>
>
>
>
|