> Rwy'n cofio cael gorchymyn penodol (mewn Bwletin o'r Cynulliad) i
> ddefnyddio band eang am broadband a band llydan am wideband.
Sydd ddim yn gwneud synnwyr achos fod y ddau yn golygu'r un
peth (o ran y dechnoleg mae'n cyfeirio ato).
Y gwahaniaeth yw fod eang yn rhywbeth haniaethol tra fod
llydan yn awgrymu rhywbeth yr ellir ei fesur.
Fe all afon fod yn gul neu lydan ond byth yn eang (heblaw fod ryw
ystyr barddonol i hynny). MĂroedd sy'n eang.
Mae'r un peth yn wir wrth fesur 'maint' y band amleddi - mi all hwn
fod yn gul neu lydan. Broadband yw'r term marchnata daeth yn
boblogaidd ym Mhrydain (y cyflythreniad mewnol yn help falle) ond
'wideband' yw'r term technolegol.
|