Diolch yn fawr iawn, Wyn. Mae'ch neges yn gysur mawr, ac efallai erbyn imi
fynd yno eto bydd pethau wedi gwella. 'Roeddwn wedi sylwi ar yr arwyddion
glas golau. Roedden nhw hefyd wrthi'n codi arwyddion ynghylch parcio i
grwpiau arbennig, ond wedi gwneud rhai arwyddion uniaith Saesneg a rhai
uniaith Gymraeg. Dywedodd y Warden ei fod o eisoes wedi cael pobl yn trio
esgusodi eu hun am barcio yn y lle anghywir trwy ddweud nad oeddent yn deall
yr iaith. Yr hun a dynnais fy sylw fwyaf oedd y baneri mawr, uniaith
Saesneg, ar y reiliau o flaen y siop ac ar hyd y ffordd fawr, pethau dros
dro yn recriwtio staff a son am newidiadau yn y siop, ynghyd a'r holl
gysgodfeydd troliau efo arwyddion uniaith Saesneg. Mae'n bosibl yr
ychwanegir arwyddion Cymraeg wedyn, ond 'dyw hynny ddim yn arfer da iawn.
> Gyda llaw, un fantais o ofyn am gyfieithiadau fesul cangen unigol yw fod
> hynny'n ei gwneud yn bosibl amrywio rhai cyfieithiadau yn ôl
tafodieithoedd
> rhanbarthol. Y tro cyntaf hwnnw, tynnais sylw Morrisons at y gwahanol
> eiriau tafodieithol a ddefnyddir am 'sweets', er enghraifft.
'Ddrwg gen i'ch siomi chi, Wyn, ond cofiaf Bruce yn tynnu fy sylw'n arbennig
at yr arwydd "losin" (os cofiaf yn iawn) ym Mangor. Mae'n ymddangos eu bod
nhw wedi drysu eich cyngor.
Ann
----- Original Message -----
From: "Wyn Hobson" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, March 15, 2005 8:32 AM
Subject: Morrisons
> Ysgrifennodd Ann Corkett:
>
> > Hyd yn hyn 'rwyf wedi siarad ag is-reolwr ym Mangor a ffonio
Gwasanaethau
> > Cwsmeriaid Morrisons ddwywaith, yr ail dro dros wythnos yn ol, i ofyn yn
> > boleit beth yw eu polisi tuag at y Gymraeg.....
>
> > Byddai'n gysur imi gael gwybod bod rhywun wrthi ar hyn o bryd yn
> > cyfieithu'r holl arwyddion sydd eu hangen, a bod y safon yn debyg o fod
> > yn uwch na rhai o arwyddion yr hen Safeways. Peth arall a oedd yn
> > ddirgelwch imi yn amser Safeways oedd pam 'roedd y camgymeriadau yn
> > wahanol ym Mangor, yn Aberystwyth ac yng Nghaernarfon, sy'n awgrymu
> > iddynt wastraffu eu harian ar gyfieithu'r arwyddion fesul siop yn lle
> > ymddiried y cyfan i un cyfieithydd neu asiantaeth.
> >
> > Rhif ffon Morrisons yw [ ] os oes ar rywun eisiau cynnig ei
> > wasanaeth neu wneud ymholiad.
>
> Bûm yn cyfieithu arwyddion i Morrisons (drwy asiantaeth yn Swydd Efrog)
ers
> haf 2000. Maent yn gofyn am gyfieithiadau fesul cangen unigol, ond byddaf
> yn edrych ar hen gyfieithiadau -- drwy law Déjà Vu erbyn hyn -- er mwyn
> sicrhau cysondeb. Cefais restr go faith o arwyddion i'w cyfieithu ar gyfer
> cangen Bangor ganol fis Rhagfyr, a dwy restr ychwanegol fechan ers
> dechrau'r mis hwn (negeseuon Ann yn cael effaith, mae'n rhaid!).
>
> Rwy'n falch fod Ann Wiliam yn hoffi'r arwyddion Cymraeg yng nghangen y
> Rhyl. Honno oedd y gangen gyntaf y gofynnwyd i mi ddarparu arwyddion ar ei
> chyfer (adeg ei hagor), ond pan ymwelais â'r siop am y tro cyntaf ychydig
> cyn y Nadolig y llynedd, roeddwn i'n siomedig o weld bod yr arwyddion yn
> crogi o'r nenfwd ac mewn mewn glas gwan, tra'r oedd yr arwyddion Saesneg
> wedi eu gosod ar bennau'r silffoedd, ac mewn coch (sydd yn un o'r
> lliwiau 'poeth', ac felly'n taro'r llygad yn gyflymach ac yn gryfach na'r
> lliwiau 'oer', sef glas, gwyrdd a'u deilliaid).
>
> Ann C -- efallai ei bod hi'n amser sgwennu at Morrisons ynglyn â'u dulliau
> cyflwyniad gweledol!
>
> Gyda llaw, un fantais o ofyn am gyfieithiadau fesul cangen unigol yw fod
> hynny'n ei gwneud yn bosibl amrywio rhai cyfieithiadau yn ôl
tafodieithoedd
> rhanbarthol. Y tro cyntaf hwnnw, tynnais sylw Morrisons at y gwahanol
> eiriau tafodieithol a ddefnyddir am 'sweets', er enghraifft.
>
> Wyn
>
>
>
|