> Beth am "1900oedd" - er na allaf ddod o hyd i enghraifft yn unman.
1900au sy'n fwy cyfarwydd. Yr unig resymeg alla'i feddwl
am hyn yw'r ffaith ei fod yn golygu "degawdau'r ugeinfed ganrif"
= "degawdau canrif mil naw cant" = 1900au
Wrth son am ddegawd penodol fel 1930au, mae hyn yn golygu "tridegau
1900" a mae'r un rheol yn gweithio. Rhaid dyfeisio "dimdegau"
am 00-09 ond beth am 10-19 .. "degau" neu "undegau"?
|