Er gwybodaeth, 'y clafier wedi'i ardymheru'n dda' yw'r cyfieithiad
llythrennol o'r teitl - dim byd i wneud gyda hwyl y clafier, mae'n
cyfeirio at ardymer cyfartal - gw. yr erthygl dan y teitl Almaeneg yn
Geiriadur Cerddoriaeth Rhydychen am fanylion pellach.
Delyth
Ysgrifennodd Puw, John:
>Diolch am y sillafiad cywir Helen - mae f'Almaeneg i braidd yn ddiffygiol, ac roeddwn yn gweithio o gof nad yw wedi delio â phethau cyffelyb ers blynyddoedd maith erbyn hyn.
>
>Mae fy nghopi i gartref hefyd.
>
>Hwyl
>
>John
>
>-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
>Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran H.K.Smith
>Anfonwyd/Sent: 22 March 2005 10:00
>At/To: [log in to unmask]
>Pwnc/Subject: Re: ATB: Well-Tempered Clavier
>
>Diolch yn fawr, John! Yn absenoldeb unrrhyw gynigion eraill, a chan mai gartref y mae fy nghopi o lyfr Grout/Palisca, Das Wohltemperierter Klavier amdani!
>
>=^^=
>
>Ysgrifennodd Puw, John:
>
>
>>Helen
>>
>>"Das Woltemperirte Clavier" ydi'r enw Almeinig ar y casgliad, sy'n fwy dilys na'r enw Saesneg.
>>
>>Mae'n siwr fod yno gyfieithiad Cymraeg o hyn yn y cyfieithiad o lyfr Grout/Palisca os oes un wrth law yn rhywle.
>>
>>John
>>
>>-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From:
>>Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>[mailto:[log in to unmask]] Ar ran H.K.Smith
>>Anfonwyd/Sent: 22 March 2005 09:38
>>At/To: [log in to unmask]
>>Pwnc/Subject: Well-Tempered Clavier
>>
>>Bore da!
>>Tybed a oes rhywun yn gwybod a oes cyfieithiad Cymraeg swyddogol o'r teitl uchod, sef teitl 'swyddogol' 48 o breliwdiau a ffiwgiau Bach - rwyf wedi chwilio ar y we, ond yn methu cael hyd i ddim.
>>
>>Diolch,
>>
>>Helen
>>
>>
>
>
>
>
>
|