Neges wrth Magi aeth ar goll yny system:
Cefais yr un broblem hefo hwn - yng nghyd destun ffurflenni i ffermwyr a
rhif batch i ddefaid pan oeddent yn mynd i'r lladd-dy - roedd yn wahanol
i rif y ddiadell a rhif y ddafad a phob rhif arall sydd gan yr
anifeiliad druan erbyn hyn. Roeddwn yn digwydd cyf ar y pryd i grwp o
ffermwyr yr un amser ac o'u holi hwy beth oeddent yn ei ddefnyddio
cefais yr ateb rhif batch! Fedre neb son am swp o ddefaid, debyg.....
edrychaf ymlaen at oleuni, hefyd...
magi
|