Mae treiglo dibeniad neu beidio fel pe bai'n bwnc dadleuol. Yn sicr,
fyddai neb fyth yn dweud "Bu marw hwn a hwn"!
Ar un llawr, ceir "Mi sydd fachgen ieuanc ffôl", ac ar y llaw arall "Daw
dydd y bydd mawr y rhai bychain", felly ymddengys nad oes dim rheol
benodol. Os felly, tybiwn fod y ddau fersiwn isod yn gywir.
Gyda llaw, mewn Llydaweg "Me zo mew" a "N'on ket mew" sy'n iawn!!!
Helen
Ysgrifennodd Palmer Parry x:
> Daeth Gwgl o hyd i 410 'byddwch gystal' ond 1310 'byddwch cystal'. Pa
> un sy'n gywir?
> Palmer
>
--
H.K.Smith (Helen) [log in to unmask]
(Cyfieithydd/Translator) [log in to unmask]
* * * *
* * *
* * Cathod/Cats
* * Pianos
* *
*
|