Mae'n rhyfedd.. ges i freuddwyd (neu hunllef) yn ddiweddar am w-t-c
yn trafod hyn unwaith eto, a wnes i lunio ateb yn y freuddwyd.
> Yn anffodus, mae defnyddio 'enag' yn y cyd-destun hwn yn gysyniadol
> anghywir. Dyna paham y byddwn ni yn y Termiadur newydd yn defnyddio
> 'band llydan'.
Ie a mi wnaeth BT ddefnyddio hynny yn safonol ers 2002 a wedyn wnaeth
y Cynulliad benderfynu ar 'eang'. Pam ddiawl?!
I esbonio'r gwahaniaeth.. mae band llydan yn cyfeirio at amrediad
penodol o amleddau sy'n cael ei ddefnyddio i drosglwyddo data (rhwng
25Hz a 1MHz ar gyfer ADSL er enghraifft).
Mae 'lled' y band yn dibynnu ar ddiffiniadau sy'n amrywio o le i le,
ond fel arfer 'band cul' = digon da ar gyfer llais. 'band llydan'
= trosglwyddo data ar gyfradd rhesymol (lle mae rhesymol yn dibynnu
ar ddisgwyliadau y cwsmer). Yn eitha buan, mi fydd ADSL yn 'fand cul'
eto am nad yw'n gadael i bobl edrych ar deledu Diffiniad Uchel lawr y
lein.
Mae wideband yn derm Americanaidd sy'n golygu yr un peth a broadband,
o leia mewn cyd-destun poblogaidd.
Ond mae ultrawideband yn golygu techneg hollol wahanol lle mae'r
amrediad o amleddau yn eang iawn, bron ar draws y sbectrwm radio i
gyd. Mae'r signal yn cael ei dorri'n ddarnau a'i ddanfon ar draws yr
holl sbectrwm ar bwer isel.
Felly mi fyddai 'band eang' yn addas ar gyfer hynny ond fe fydd rhaid
trafod am dair blynedd eto nawr ar y cyfieithiad mwyaf addas o 'ultra'.
|