Yn anffodus, mae defnyddio 'enag' yn y cyd-destun hwn yn gysyniadol
anghywir. Dyna paham y byddwn ni yn y Termiadur newydd yn defnyddio
'band llydan'. Bu trafodaeth helaeth ar hyn, ond penderfynwyd dal at yr
egwyddor ei bod hi'n bwysig fod termau yn adlewyrchu nodweddion y
cysyniad yn gywir (safon ISO 704). Mae hyn yn arbennig o wir am addysg
ysgolion lle mae diffyg cywirdeb cysyniadol yn arwain at ddryswch wrth
ddysgu pwnc.
Mae'n drueni fod termau gwahanol yn cael eu defnyddio gan wahanol gyrff,
ond dydi hynny ddim yn ddadl dros i bawb ddefnyddio term anfoddhaol
ychwaith (dydi cysondeb ddim yn golygu safon bob tro!)
Delyth
Ysgrifennodd Muiris Mag Ualghairg:
> Dw i'n cytuno'n llwyr ond dyna beth mae'r Cynulliad yn ei ddefnyddio.
>
> ----- Original Message -----
> From: "M.A.Elis" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, March 07, 2005 10:01 AM
> Subject: Re: broadband
>
>
> Dwi'n gwybod, sy'n esbonio pam y byddan nhw mewn twll pan ddaw wideband i
> mewn......
>
>
>
>
> --
> No virus found in this outgoing message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.6.2 - Release Date: 04/03/2005
>
|