Dwi'n cofio gweld erthygl (yn Golwg, dwi'n meddwl) pan oedd Sobin a'r
Smaeliaid yn eu hanterth a oedd yn sôn mai wedi benthyca geiriau ar gyfer y
gân 'Plwyf Llanllyfni' oedd Bryn Fôn hefyd. Ond dydw i ddim am ladd ar y boi
- mae wedi gwneud cyfraniad aruthrol i ganu poblogaidd yn Gymraeg yn fy marn
i yn enwedig gan ei fod yn ysgrifennu ei ganeuon i gyd mewn Cymraeg naturiol
ac mewn iaith pob dydd hyd yn oed os ydyw'n benthyca ac yn addasu.
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhys Jones
Sent: 01 March 2005 12:28
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Blues Ty Golchi
On Mon, 28 Feb 2005 12:00:50 -0000, Gorwel Roberts
<[log in to unmask]> wrote:
> 'I got the wash house blues I've got nothing to lose' oedd y geiriau
> gwreiddiol ond ni wn gan bwy. Joe Walsh ella? Yn sicr nid BF sgwennodd y
> gân!
Dyma'r agosaf ddaeth i law o du Joe Walsh:
http://www.lyricspy.com/98174/Joe_Walsh_lyrics/All_Night_Laundry_Mat_Blues_l
yrics.html
Tra'n bod ni ar y trywydd, mwy na thebyg y gwyr pawb taw 'benthyg
creadigol' oedd Draenog Marw... hefyd, oddi wrth Loudon Wainwright
III. Chwarae teg i Bryn Fon, fe drodd y drewgi Americanaidd i fod yn
ddraenog Cymreig. Lleoleiddio yw'r term am hwnna dydd heddiw...
http://www.greece.k12.ny.us/taylor/songs/dead_skunk.htm
--
http://cysyllta.blogspot.com/
|