Rwy'n plygu i farn Glenys ym mhob cwestiwn iaith - gyda'r un eithriad yma yn
unig, a dyma pam!
Unwaith yr oedd yna ddwy chwaer y naill a^ diddordeb mewn tlysau drud a’r
llall mewn cloriau a gwerin gwyddbwyll yn adlewyrchu gwahanol ddiwylliannau.
Yr oedd y ddwy yn casglu gemau cain ond wrth gwrs tra y byddai’n hawdd i’r
naill wisgo’i gemau yn ei chlustiau nid felly’r llall.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Delyth Prys
Sent: 01 March 2005 10:26
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Fw: Spill Vase
Ysgrifennodd Glenys M Roberts:
> Amen ac amen. Ond pam o pam y mae *Orgraff yr Iaith Gymraeg *(1987)
> yn rhoi'r ffurf hyll 'gêmau'? Alla i ddim hyd yn oed ynganu'r gair
> fel yna. (*GPC* - 'gemau', diolch byth.)
> O ddifri - pan fo'r ddau awdurdod yna'n anghytuno, beth mae
> cyfieithwyr druan i fod i'w wneud?
Gwneud beth mae'r Ganolfan Safoni Termau yn gwneud - dilyn Orgraff yr
Iaith Gymraeg hyd y bo modd ac apelio at Geiriadur Prifysgol Cymru os
oes amheuaeth yn codi.
Rwy'n cytuno gyda Glenys ynghylch 'gem^au' ac fe gawson ni drafodaeth
gyda staff y Geiriadur am hynny ar y pryd. A dweud y gwir, dyna'r unig
air (hyd y gwn i) nad ydyn ni'n dilyn Orgraff yr Iaith ond yn hytrach yn
dilyn GPC.
Yr hyn sy'n fwy o broblem yw cysylltnodi mewn geiriau newydd - ond stori
arall yw honno....
Delyth
> Glenys
>
> ----- Original Message -----
> *From:* Rhisiart Hincks <mailto:[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Sent:* Monday, February 28, 2005 8:13 PM
> *Subject:* Re: Fw: Spill Vase
>
> Mae cod, sef *Orgraff yr Iaith Gymraeg* a *Geiriadur Prifysgol
> Cymru*. Paham chwilio yn rhywle arall? Onid yw'n ddwl i bobl
> ddilyn gwahanol bolisïau. Yn y pen draw gall arwain at bob math o
> anghysonederau a checru, fel yn achos y Gernyweg, ac i raddau llai
> y Llydaweg, a'r Gymraeg yn y 19eg ganrif o ran hynny. Byddai'n
> ddigon hawdd 'gwella' orgraff y Gymraeg ac yn gwbl ddinistriol ar
> yr un pryd.
>
> Rhisiart
>
> ----- Original Message -----
> *From:* Catrin Beard <mailto:[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Sent:* Monday, February 28, 2005 5:30 PM
> *Subject:* Re: Fw: Spill Vase
>
> Tybed oes angen datblygu cod ymarfer ar gyfer hyn, ynteu ai
> côd ymarfer ddyle hynna fod ...
>
> -----Original Message-----
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology
> and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]*On Behalf Of
> *Geraint Løvgreen
> *Sent:* 28 February 2005 17:20
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Subject:* Re: Fw: Spill Vase
>
> Fasech chi'n rhoi to bach ar câs (am exhibition case)
> felly Alwyn? Dwi wrthi'n defnyddio'r gair hwnnw rwan fel
> mae'n digwydd, ac mi faswn yn gwerthfawrogi sylwadau!
>
> ----- Original Message -----
> *From:* Alwyn Evans <mailto:[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Sent:* Monday, February 28, 2005 5:11 PM
> *Subject:* Re: Fw: Spill Vase
>
> 'Fâs' oherwydd mai benthyciad o'r Saesneg sy' yma, ac
> i'w wahaniaethu oddiwrth 'fas' (er enghraifft 'yn fas
> ei iaith') - ac er bod Berwyn a Geraint yn anghytuno
> gyda mi, mae GyA yn fy nghefnogi!
>
> Beth bynnag, mae 'potyn sbils' yn well - er nad 'spill
> pot' a ddywed y gwreiddiol
>
> Alwyn
>
> ----------------------------------------------------------
--------------
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.300 / Virus Database: 266.5.1 - Release
> Date: 27/02/05
>
|