Fel yr hen fenyw wreiddiol, mae cyrn gwrando yn fy siwtio i'r dim. Clust
ffonau a phensetiau yw'r ddau derm arall glywais i.
Diddorol yw stethosgop Helen...gan mai corn meddyg oedd hwnnw ers talwm
a "chornio" pobl oedd y meddyg wrth wrando ar eu brest .... ac mae'r
gair yn dal i gael ei arfer yn y cyd-destun hwnnw. Fely, gallwn arfer
cyrn gwrando, siawns...
Mae Wyn yn llygad ei le - dwi wedi dweud wrthych mewn e bost y diwrnod
o'r blaen ei fod yn gwybod popeth!
magi
----- Original Message -----
From: "Fiona Wells" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, February 03, 2005 12:40
Subject: Re: cyrn gwrando
> Rwy'n ofni mod innau'n bersonol yn teimlo bod cysylltiadau braidd yn
> anffodus yn dod i'r meddwl wrth ddefnyddio'r term hwnnw - rwy'n cael
> rhyw
> ddarlun o hen fenyw o'r oes o'r blaen sy'n fyddar fel postyn gyda
> rhywrai'n
> gweiddi mewn i'w chorn gwrando/'ear trumpet', ond yn ofer - delwedd
> braidd
> yn anffodus/eironig i gyfieithydd ar y pryd!
> Ond hwyrach mod i'n eithriad yn hyn o beth?
> Fiona
>
>>From: Judith Kaufmann <[log in to unmask]>
>>Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>vocabulary
>> <[log in to unmask]>
>>To: [log in to unmask]
>>Subject: cyrn gwrando
>>Date: Thu, 3 Feb 2005 12:21:20 -0000
>>
>>Mae Megan a fi yn hoff o'r term 'cyrn gwrando' a ddefnyddiodd Wyn am y
>>clustffonau cyfieithu yn y gynhadledd ddiwethaf. Dw i wedi clywed
>>'clustdlysau cyfieithu' hefyd ers hyn, ond mae'n swnio'n rhy hir imi.
>>Beth
>>yw eich barn chi?
>>
>>
>>Judith Kaufmann
>>Swyddog Prosiectau/Project Officer
>>Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
>>(The Association of Welsh Translators and Interpreters)
>>01248 371839
>
>
|