On Wed, 23 Feb 2005 10:45:02 -0000, Geraint Løvgreen
<[log in to unmask]> wrote:
> Am "syntheseinyddion" - fase "syntheseinwyr" un sillaf yn llai...
Mae rhyw deimlad braidd yn anffodus i'r gair 'synthe*seinydd*'. Mae'n
awgrymu i mi, o leia, bod rhaid i'r peiriant sy'n gwneud y
syntheseiddio fod yn uniongyrchol gysylltiedig â seinydd. Hyd ag y gwn
i, dyw hyn ddim yn wir o reidrwydd. Hefyd, mae 'na gysyniad arall sy'n
perthyn i 'synthesiser' yn Saesneg, sef 'rhywun all gloriannu
gwybodaeth yn dda'.
Well 'da fi'r ffurfiau syntheseidd... neu syntheseis... yn bersonol.
Neu synths, wrth gwrs.
Rhys
--
http://cysyllta.blogspot.com/
|