Ymddiheuriad, Annes, am gymryd cyhyd i roi'r wybodaeth ynghylch tap trwsio
llyfrau. Y tro diwethaf inni ei brynu, roedden ni wedi'i gael gan rywun a
oedd wedi prynu sawl rholyn ac yn eu gwerthu fesul un. Gan ein bod ni'n dod
i ben ein cyflenwad, holais y cwmni yn ddiweddar. Cefais dipyn o fraw, fel y
gwelwch o'r ffigyrau isod. A fyddai gan rai eraill, tybed, ddiddordeb mewn
rholyn - gallwn anfon tamaid bach fel enghraifft? Efallai gallem ni brynu,
dywedwch, ddeg rholyn (bydd eisiau mwy nag un ar Bruce a finnau) neu brynu
un rholyn hir a'i rannu. A oes 'na rywun yn mynd i fod yn ardal Rhydychen, a
fyddai'n barod i gasglu'r tap ac arbed y costau postio, tybed? Dyma'r
manylion:
DRT1 Document Repair Tape x 25 mm width,
gan Conservation Resources (UK) Ltd, Units 1, 2, 4 & 5 Pony Road, Horspath
Industrial Estate, Cowley, Oxford, OX4 2RD. Ffon: +44(0) 1865 747755; Ffacs:
+44(0) 1865 747035
Dyma brisiau'r tap:
1 x 30m £7.70
10 x 30m £70.40
1 x 350m £55.00
2 x 350m £105.60
Ffi postio (wn i ddim a fyddai hyn yn fwy ar gyfer yr Eidal) £8.00
Ac mae hyn i gyd cyn rhoi TAW ar ei ben.
Mae tap da, ond heb fod cystal yn fy marn i, ar gael gan gwmni o'r enw
Ratchfords yn Stockport (0161 4808484
1 x 50m £9.00 + taw + post (barn yr un a atebodd y ffon oedd y byddai ffi
postio un rholyn ryw £1.50. Nid oes gostyngiad nes ichi gyrraedd 50 rholyn!
Mi fydda i'n ceisio rhoi neges i'r un perwyl yn rhifyn nesaf 'Y Casglwr'
hefyd i weld a gawn ni ragor o ymateb.
Ann
|